prosesu mêl

Bydd rhaglen cymorth busnes bwyd a diod Cymru – Cywain – dathlu degawd o feithrin talent yn y sector trwy arddangos llu o fentrau newydd yn Sioe Frenhinol Cymru (22 - 25 Gorffennaf).

Am y deng mlynedd diwethaf mae Cywain wedi bod yn arwain ac annog busnesau bwyd a diod bychain - gan eu helpu i ddatblygu eu hyder a’u sgiliau.

Mae Cywain, sy’n cael ei darparu gan gwmni Menter a Busnes, yn rhaglen sydd wedi ymrwymo i ddatblygu busnesau micro a busnesau bach a chanolig newydd neu sydd eisoes yn bodoli yn y sector bwyd a diod yng Nghymru gan ganolbwyntio ar wneud y mwyaf o gyfleoedd a’r potensial i dyfu. Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop
ar gyfer Datblygu Gwledig.

Dros y blynyddoedd mae Cywain wedi gweithio gyda chwmnïau niferus – mwy na 350 yn y 12 mis diwethaf yn unig – a nifer o’r rheini wedi bod â’u cynnyrch i Neuadd fwyd enwog Sioe Frenhinol Cymru.

"Sefydlwyd Cywain i helpu’r busnesau yma i gyflawni eu potensial a rhoi iddynt y sgiliau angenrheidiol i fynd â’u mentrau i’r lefel nesaf,”

Meddai Dewi Evans, Rheolwr Prosiect Cywain.

“Mae'n fraint bod yno ar y cychwyn gyda mentrau mor gyffrous ac arloesol. Rydym yn falch iawn o fod wedi gweithio gyda chynifer o gynhyrchwyr, ac mae rhai ohonynt wedi mynd yn eu blaenau i fod yn gynhyrchwyr a chyflogwyr allweddol yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.”


Rhoddir cymorth drwy becynnau busnes sydd wedi’u targedu ar gyfer gofynion unigol, yn cynnwys cyngor arbenigol a mentora, datblygu cynnyrch, rhwydweithio, clystyrau, a chyfleoedd i fasnachu a phrofi’r farchnad.

Roedd un ar bymtheg o gynhyrchwyr yn cael eu harddangos ar stondin Cywain yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, gyda phedwar cynhyrchydd newydd bob dydd.

I’r mwyafrif ohonynt, hwn fydd y tro cyntaf iddynt arddangos eu cynnyrch i gynulleidfa mor fawr - ac i rai hwn fydd eu cyfle cyntaf i fasnachu.

Rhestr o gynhyrchwyr.