Symud Gyda Tedi

I ddathlu wythnos gwirfoddolwyr (1-6 Mehefin 2019), cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol eu bod yn dyfarnu £3,200,162 mewn grantiau i 59 cymuned yng Nghymru yn ystod Mehefin. Mae’r grantiau hyn yn bosib diolch i chwarewyr y Loteri Genedlaethol.

Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn falch o gyhoeddi bod eu cais grant nhw i ddatblygu prosiect newydd o’r enw ‘Symud Gyda Tedi’ yn un o’r prosiectau llwyddiannus a fu’n derbyn un o’r grantiau hyn. 

Bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar lwyddiant ysgubol apiau’r cymeriad hynod boblogaidd Magi Ann. Datblygwyd apiau Magi Ann yn wreiddiol gyda chymorth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a hynny i helpu teuluoedd ar draws y byd i gyd  i ddysgu darllen yn y Gymraeg.  

Mae Tedi yn un o brif gymeriadau straeon Magi Ann ac yn ffefryn ymysg plant. Mi fydd y prosiect newydd hwn yn creu adnodd digidol, hwyliog, dwyieithog i deuluoedd fydd ar gael i'n holl gymunedau. 

Bwriad y  prosiect yw hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg, cefnogi arferion iechyd da a chadw’n heini a dod â chymunedau led led Cymru ynghyd.

Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam hefyd yn ddiolchgar iawn o dderbyn nawdd tuag at brosiect ‘Symud Gyda Tedi’ gan Cadwyn Clwyd a fe gyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru- Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennnir gan Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Meddai Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam: 

“Rydym mor falch o allu lansio’r adnodd newydd gwych yma. Mae’n wych gweld bod y Loteri Cenedlaethol a Cadwyn Clwyd yn buddsoddi yn y Gymraeg gan ariannu prosiectau gan fudiadau fel y Mentrau Iaith sydd yn cefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg yn ein cymunedau.”