Mae system olrhain cysylltiadau ar gyfer y boblogaeth gyfan yn cael ei hehangu ledled Cymru wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething.

O Dydd Llun, 1 Mehefin ymlaen, bydd aelod o’r tîm olrhain cysylltiadau’n cysylltu ag unrhyw un sy’n cael canlyniad prawf coronafeirws positif ac yn gofyn am fanylion pawb maent wedi dod i gysylltiad agos â hwy tra maent wedi bod â’r symptomau.

Mae cysylltiad agos yn golygu unrhyw rai:

  • y maent wedi bod o fewn 1m iddynt ac wedi cael sgwrs wyneb yn wyneb â hwy, cysylltiad croen i groen â hwy neu wedi pesychu arnynt, neu wedi bod mewn ffurf arall o gysylltiad â hwy am gyfnod o fwy na munud
  • y maent wedi bod o fewn 2m iddynt am fwy na 15 munud
  • y maent wedi teithio mewn cerbyd gyda hwy neu wedi eistedd yn eu hymyl ar drafnidiaeth gyhoeddus

Bydd y tîm yn cysylltu â’r holl gysylltiadau hyn a gofynnir iddynt hunanynysu am 14 diwrnod er mwyn atal lledaeniad y feirws ymhellach.

O ddydd Llun nesaf, 8 Mehefin, ymlaen bydd olrhain cysylltiadau’n cael ei gefnogi gan system ar-lein newydd a fydd yn rhoi opsiwn i bobl i ddarparu manylion am eu cysylltiadau agos yn electronig.

Dywedodd Mr Gething:

Mae’r ehangu heddiw ar yr elfen olrhain cysylltiadau o’n strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn gam arwyddocaol ymlaen yn y symud graddol allan o’r cyfyngiadau symud.

Yn ystod y misoedd diwethaf, diolch i help y cyhoedd a’r ffordd maent wedi cadw at y rheolau aros gartref, rydym ni wedi llwyddo i arafu lledaeniad y feirws fel ein bod ni heddiw’n gallu llacio’r rheoliadau i alluogi i ffrindiau a theulu gyfarfod eto.

Mae olrhain cysylltiadau’n ddull sydd wedi’i brofi o ddod ag achosion o glefydau heintus o dan reolaeth ac rydym ni’n gobeithio y bydd yn gwneud yr un peth gyda’r coronafeirws – ond er mwyn i hyn fod yn llwyddiannus, rhaid i ni gael help a chydweithrediad pawb i rannu manylion am eu symudiadau a’u cysylltiadau. Hefyd rhaid i bobl hunanynysu os ydynt yn wynebu risg.

Mae’r cyngor gwyddonol yn glir – mae arnom ni angen cael system olrhain cysylltiadau yn ei lle cyn i ni ddechrau codi’r cyfyngiadau ymhellach.

Mae byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn cydweithio i olrhain cysylltiadau. Mae’r system wedi cael ei threialu yn ardal pedwar bwrdd iechyd yn ystod y pythefnos ddiwethaf ac mae mwy na 600 o unigolion sy’n olrhain cysylltiadau wedi cael eu cyflogi hyd yma. Mae’r nifer yma’n debygol o godi wrth i’r system gael ei hehangu.

Mae’r capasiti profi wedi cael ei gynyddu i gefnogi olrhain cysylltiadau a gellir archebu profion cartref a phrofion yn y canolfannau gyrru drwodd ar gyfer gweithwyr allweddol a’r cyhoedd ar-lein.

Olrhain cysylltiadau: eich cwestiynau