Mae yna alw cynyddol am ffrwythau a llysiau sydd wedi’u tyfu’n lleol ac mae tirfeddiannwyr mewn sefyllfa dda i gymryd mantais o’r duedd yma trwy ddysgu mwy am system tomwellt arloesol a sut y gellid ei gynnwys yn eu harferion garddwriaeth.
 
Ymunwch â Cyswllt Ffermio ar fferm Tyddyn Teg, Bethel, Caernarfon, LL55 3PS ar 19 Awst 2019, 17:00 - 19:30 am sgwrs yn gynnar gyda’r nos gyda Johannes Storch, a oedd yn siaradwr gwadd yn y Real Oxford Farming Conference yn gynharach eleni. Cewch ddysgu am egwyddorion y broses naturiol o gadw’r pridd yn ffrwythlon a’r defnydd ymarferol o’r egwyddorion hyn mewn garddwriaeth organig.
 
Mae’r digwyddiad yn cynnwys swper ysgafn sy’n defnyddio cynnyrch fferm Tyddyn Teg.

Ymunwch â Cyswllt Ffermio ac arbenigwyr o fewn y maes, gan gynnwys Johannes Storch, a fydd yn siaradwr gwadd yn y digwyddiad, er mwyn ehangu eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth ynglŷn â systemau tomwellt a phlannu uniongyrchol mewn garddwriaeth organig. 

Oes gennych chi ddiddordeb mewn garddwriaeth organig? Mae’n bosib bod y digwyddiad hwn yn un a fyddai’n dda i chi fynychu. 

Bydd egwyddorion cadw pridd yn ffrwythlon drwy natur, drwy wreiddiau a phridd gorchudd, a sut all yr egwyddorion hyn gael eu defnyddio’n ymarferol mewn garddwriaeth, eu trafod o fewn y digwyddiad hwn, yn ogystal â chnwd cylchdro gyda defnydd dwys o gnwd gorchudd a sut all gnwd cylchdro fwydo ei hun gyda deunydd tomwellt. 

Bydd datrysiadau technegol ar gyfer trawsblannu haenau tomwellt anorganig yn cael eu trafod o fewn y digwyddiad yn ogystal â chanlyniadau gwyddonol ac ymarferol ar ôl 9 mlynedd o brofiad gyda systemau Tomwellt.

Os hoffech archebu lle, cysylltwch â Cyswllt Ffermio: 08456 000 813

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.