Tyfu Cymru

Fel rhan o raglen Tyfu Cymru rydym yn falch o lansio Adolygiad Busnes Ar-lein. Mae hwn yn offeryn unigryw i helpu busnesau garddwriaeth fasnachol i asesu’u busnes a chanfod meysydd lle gallant o bosibl elwa o hyfforddiant garddwriaeth fasnachol sydd wedi’i ariannu 100%.

Mae asesiadau ar-lein ar gael i fusnesau garddwriaethol o Gymru sydd â diddordeb mewn gwella’u cynhyrchedd a’u perfformiad drwy ddatblygu ac adnabod anghenion hyfforddi. Mae’r offeryn Adolygu Busnes ar-lein hwn yn helpu busnesau garddwriaethol i ddiffinio’u hamcanion drwy gymryd amser i ddadansoddi cyfeiriad eu busnes am y pum mlynedd nesaf. 

Drwy ystyried pob agwedd o’u busnes, yn cynnwys y gwaith o ddydd i ddydd, marchnata, y strategaeth gwerthu a sut maent yn cysylltu â marchnadoedd newydd, gall busnesau ddod i ddeall pa feysydd sy’n perfformio’n dda, ac amlygu meysydd lle gallai Tyfu Cymru ddarparu cymorth.

Mae’r offeryn yn gyflym a syml i’w ddefnyddio, nid oes angen gwybodaeth dechnegol, ac mae pob busnes sy’n cwblhau’r adolygiad yn cael ei adroddiad penodol ei hun sy’n amlygu anghenion y busnes. Mae'r offeryn diagnostig yn dadansoddi’r meysydd allweddol canlynol:

  • Rheolaeth ac Arweinyddiaeth
  • Marchnata ac e-Fasnach
  • Gwerthu
  • Arbenigedd technegol
  • Rheolaeth Ariannol
  • Y Sefydliad a Phobl
Online assessment tool
Offeryn asesu ar-lein

 

Dywedodd Sarah Gould, Rheolwr Prosiect Tyfu Cymru “Rydym yn gyffrous iawn o allu lansio’r Offeryn Adolygu Busnes, a fydd yn rhoi cymorth i’r sector yng Nghymru i ddadansoddi cyfeiriad eu busnes i'r dyfodol, yn ogystal â darparu golwg werthfawr ar rannau o’u busnes sy’n perfformio’n dda, a meysydd lle y gallai cymorth ychwanegol fod yn fuddiol. Rydym yn deall fod amser yn werthfawr, ac felly ni ddylai’r adolygiad gymryd mwy na 15 munud i’w gwblhau, a does dim angen unrhyw wybodaeth dechnegol.” 

Mae am ddim ac yn syml i’w ddefnyddio - ewch i: http://support.tyfucymru.co.uk/cartref/asesiad-ar-lein/

 

Tyfu Cymru
Tyfu Cymru

 

Tyfu Cymru supports commercial growers and horticulture businesses based in Wales,  prepare for and capitalise on new market opportunities through training and development for the horticulture sector. Led by Lantra, the programme has received funding through the Welsh Government Rural Communities - Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.