Y cyngor cywir yn cynnig atebion slyri cost-effeithiol ar gyfer ffermwr llaeth o Abergwaun

Rhiannon James ac Randal Williams

Mae newidiadau syml a chost effeithiol i fesurau rheoli slyri ac elifion wedi bod yn fodd i fferm laeth yn Sir Benfro leihau’n sylweddol faint o ddŵr sy’n llifo i’w lagŵn a gwneud gwell defnydd o faetholion ar y fferm.

Dechreuodd y teulu Williams ‘wirio’ capasiti storio presennol a’r seilwaith ar eu fferm  400 erw, Trebover Farm ger Abergwaun.

Roedd cyngor gan Keith Owen, cynghorydd adeiladau ac amgylcheddol annibynnol, ynglŷn â seilwaith ar gyfer storio slyri a thail wedi’u ariannu yn rhannol gan Cyswllt Ffermio, yn hanfodol i hyn. 

Cyn yr ymarferiad hwn, roedd y teulu Williams wedi rhagweld y byddai angen iddynt fuddsoddi’n helaeth mewn cyfleusterau storio newydd, ond yn hytrach, argymhellodd Mr Owen gyfres o fesurau i leihau’r pwysau ar y storfa bresennol tanddaear a chydymffurfio â chyfarwyddebau llygredd arfaethedig. 

Roedd gwelliannau’n cynnwys dargyfeirio dŵr budr o’r lagŵn i gyfleuster storio ar wahân a gosod cwteri a draeniau ar yr adeiladau i atal dŵr glaw rhag llifo i’r lagŵn.

Mae hyn wedi arbed cost buddsoddiad cyfalaf mawr i’r busnes yn ôl Randal Williams, sy’n ffermio gyda’i dad, Phil, gan fasnachu o dan yr enw Parc y Morfa Farms Limited.

Er bod y newidiadau wedi costio tua £40,000, byddai adeiladu cyfleuster storio newydd wedi costio dwywaith gymaint â hyn, yn ôl amcangyfrifon Mr Williams.

“Roedd angen cyngor da arnom ynglŷn â’r ffordd orau i fynd ymlaen ac roeddem yn falch iawn â’r cyfarwyddyd a gawsom, mae wedi arbed llawer o arian i ni. 

“Mae cadw cymaint â phosibl o ddŵr glân allan o’r system wedi golygu nad oes angen gwagio’r lagŵn mor aml ac mae’r slyri’n fwy gwerthfawr fel gwrtaith.’’

Hefyd derbyniodd Mr Williams, sy’n cyflenwi llaeth o’i fuches o 220 o wartheg i First Milk ac sy'n aelod o’i gynllun effeithlonrwydd maetholion, Gynllun Rheoli Maetholion (NMP) drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio – caiff y cynlluniau hyn eu hariannu llawn ar gyfer grwpiau o dri neu fwy o fusnesau fferm cymwys, neu hyd at 80% o nawdd ar sail un i un.

Samplwyd y priddoedd yn ei holl gaeau a chafwyd canlyniadau annisgwyl.

“Ar gae na roddir unrhyw slyri na thail arno oherwydd ei fod yn serth, ond yn hytrach dim ond bagiau gwrtaith dwywaith y flwyddyn, roedd y P, K a’r pH yn berffaith,’’ meddai Mr Williams.

Mae’r Cynllun, a luniwyd gan Aled Roberts ADAS, yn eu helpu i reoli maetholion ei fferm yn well.

“Bellach rydym yn defnyddio’r slyri pryd a phan fo’i angen yn lle ei chwalu ar y tir oherwydd bod angen gwagio’r lagŵn. Mae hyn yn golygu nad ydym yn defnyddio cymaint o fagiau gwrtaith.’’

Neges Mr Williams i ffermwyr eraill yw y dylent wneud defnydd llawn o wasanaeth Cyswllt Ffermio,

“Gofynnwch am gyngor,” meddai. “Mae cael y cyngor iawn wedi arbed miloedd o bunnoedd i ni ac wedi rhoi hyder i ni ein bod yn rheoli slyri yn y ffordd iawn.’’

Dywed Rhiannon James, Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer Gogledd Sir Benfro, fod profiad Williams wedi dangos bod cael y cyngor iawn yn gallu arwain at atebion rhatach i ffermydd yn hytrach na newid y seilwaith presennol.

“Mae cymorth ar gael gan Cyswllt Ffermio i helpu ffermwyr i wella eu busnesau ac arbed costau hefyd,” meddai.

“Efallai bod busnesau fferm yn pryderu eu bod am orfod buddsoddi’n sylweddol i gydymffurfio â gofynion ansawdd dŵr ond mae’n bosibl nad yw hynny’n angenrheidiol. 

“Trwy gael cyngor gall ffermwyr wneud penderfyniadau gwybodus sy’n gynaliadwy ar gyfer eu busnes. Nid oes raid i ffermwyr weithredu ar eu pennau eu hunain, mae bob math o gymorth ar gael sy’n addas i bob math o sefyllfa. Yn benodol, gall ffermwyr cymwys gael mynediad i gyngor un-i-un ar y fferm ar gyfer reoli maeth a seilwaith. Gallant gael yr wybodaeth hon drwy siarad â’u Swyddog Datblygu Lleol.” 

Ariennir y prosiect gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.
 

1