Cymorth i fuddsoddi mewn prosesu a/neu datblygu cynnyrch amaethyddol.
Mae Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd (FBIS) yn elfen bwysig o Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Ei nod yw helpu cynhyrchwyr cynhyrchion maethyddol ar lefel gynradd yng Nghymru i ychwanegu gwerth at eu cynhyrchiondrwy ddarparu cymorth i’r busnesau hynny sy’n cynnal gweithgareddau prosesu cam cyntaf a/neu ail gam. Bwriedir hefyd iddo wella perfformiad a chystadleurwydd eu busnesau; i ymateb i alw defnyddwyr; i annog arallgyfe ar, a gwasanaethu marchnadoedd newydd a phresennol.
Mae’r cynllun yn croesawu ceisiadau gan amrywiaeth eang o fentrau sy’n ymwneud â phrosesu cynhyrchion amaethyddol ar lefel cynradd a/neu eilaidd, gan gynnwys:
• Unig fasnachwyr
• Sefydliadau’r sector gwirfoddol
• Cwmnïau cyfyngedig preifat a chyhoeddus (BBaCh a Mentrau Mawr)
• Busnesau fferm sydd am brosesu eu cynhyrchion amaethyddol eu hunain
• Busnesau newydd gan gynnwys busnesau sy’n dechrau