Timber

Bydd Cylch 5 y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren (TBIS) ar agor ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb rhwng 1 Mawrth a 9 Ebrill 2021, gyda chyllideb o £2m gan Lywodraeth Cymru Cymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mae TBIS yn agored i geisiadau gan berchnogion coedwigoedd a meithrinfeydd coed preifat, awdurdodau lleol neu berchnogion coedwigoedd a BBaChau eraill yn y sector cyhoeddus sy'n ymwneud â gweithgareddau plannu a rheoli coedwigoedd, cynaeafu coed a/neu brosesu coed.

Fel cylchoedd blaenorol, mae'r cynllun wedi'i gynllunio i gefnogi prosiectau sy'n gwireddu potensial coedwigaeth, sy'n ymwneud â pharatoi (cynaeafu), prosesu ac ychwanegu gwerth at gynhyrchion coedwig, ac sy'n buddsoddi mewn peiriannau ac arferion cynaeafu sy'n ystyriol o adnoddau. Ond bydd y cylch hwn o TBIS hefyd yn cefnogi prosiectau sy'n cynyddu'r capasiti fel meithrinfeydd coed, ac yn delio â choed sydd wedi'u heintio ag ‘Ash Dieback.'

Gwnewch eich cais am y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren: https://llyw.cymru/cynllun-buddsoddi-mewn-busnesau-pren