Mynegi Diddordeb nawr agor tan 22 Tachwedd
Dylai busnesau, sefydliadau a chymunedau fod yn gweithio gyda'i gilydd o dan ymbarél Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i wella cydnerthedd drwy fynd i'r afael â materion megis:
- Tlodi
- Cynaliadwyedd ariannol
- Y newid yn yr hinsawdd
- Yr Amgylchedd/ ansawdd yr amgylchedd lleol
- Allgáu cymdeithasol
Rhaid gwneud hynny mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'r ffordd y cyflawnir blaenoriaethau cenedlaethol fel y'u nodir yn Ffyniant i Bawb, y Polisi Adnoddau Naturiol ac unrhyw gynlluniau perthnasol sy'n hoelio sylw ar fater penodol megis y Cynllun Adfer Natur, y Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio a'r Cynllun Gweithredu Sŵn a Seinwedd, a strategaethau a chynlluniau lleol (ee cynlluniau lleol ar Seilwaith Gwyrdd, Bioamrywiaeth ac Ansawdd Aer). Rhaid bod egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) wedi'u defnyddio'n glir wrth gynllunio datblygiad a chyflenwi'r gweithgarwch arfaethedig.
Bydd y Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant yn cefnogi prosiectau sy'n arwain at welliannau mewn ardaloedd preswyl drwy ddod â manteision i bobl, busnesau a'u cymunedau. Mae'n canolbwyntio ar brosiectau peilot a phrosiectau arddangos, ar y raddfa briodol, i hyrwyddo cydweithredu a chydweithio er mwyn mynd i'r afael â'r tair thema gweithredu a ganlyn:
- Datblygu, adfywio ac ehangu mynediad i seilwaith gwyrdd cynaliadwy drwy atebion sy'n seiliedig ar natur;
- Gwella ansawdd yr amgylchedd adeiledig trefol a gwledig; a
- Datblygu rhwydweithiau ecolegol cydnerth ac atebion sy’n seiliedig ar natur
Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant yng Nghymru (ENRaW): canllawiau: https://llyw.cymru/cynllun-galluogi-adnoddau-naturiol-llesiant-yng-nghymru-enraw-canllawiau?_ga=2.72841427.1972875864.1572252888-413311742.1543317556
Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant yng Nghymru (ENRaW): datganiad o ddiddordeb – meini prawf a ffurflen gais: https://llyw.cymru/cynllun-galluogi-adnoddau-naturiol-llesiant-yng-nghymru-enraw-datganiad-o-ddiddordeb-meini-prawf?_ga=2.72841427.1972875864.1572252888-413311742.1543317556