Yn ddiweddar, bu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gweithio gyda Menter Bro Dinefwr i ddarparu gweithgareddau yn Llanymddyfri fel rhan o brosiect fydd yn sicrhau bod effaith Canolfan S4C Yr Egin i’w deimlo ledled y sir.

Mae’r Brifysgol hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda Menter Gorllewin Sir Gâr a Menter Gwendraeth Elli o fewn y misoedd nesaf i ddarparu gweithdai a digwyddiadau ar draws Sir Gâr o dan faner ‘Yr Egin Ar Daith.’

Drwy gefnogaeth ariannol cronfa LEADER – cronfa sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar ran y Grŵp Cefn Gwlad – mae’r Brifysgol wrthi’n ddatblygu prosiect ymgysylltu creadigol a digidol er mwyn gweithio gyda gwahanol gymunedau ledled Sir Gaerfyrddin.  

Mae’r Egin yn ganolfan fywiog  a byrlymus sy’n gartref i bencadlys S4C yn ogystal â nifer o gwmnïau a sefydliadau sy’n gweithio o fewn y diwydiannau creadigol a digidol.  Mae hefyd yn ganolfan sydd wrth wraidd y gymuned gyfan gan roi cyfleoedd i bobl leol fwynhau'r adeilad a’i holl adnoddau gan gynnwys y caffi, sef Y Gegin; yr awditoriwm, sef y Stiwdio Fach a’r ardal gyhoeddus, sef Y Galon.

Gyda’r Egin bellach wedi agor ei drysau ers bron blwyddyn, mae’r grant a ddyfarnwyd gan y Grŵp Cefn Gwlad, yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r Ganolfan o fewn ystod o grwpiau cymunedol ar draws y sir trwy gynnig amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau.  Mae’r prosiect hefyd yn helpu’r Brifysgol i wireddu uchelgais Yr Egin o ran ychwanegu gwerth at yr economi a’r gymuned yn ogystal â datblygu cyfleoedd ymhellach i bobl weithio, cymdeithasu a bod yn greadigol trwy gyfrwng y Gymraeg.  

Yn sgîl hyn, mae cyfres o ddigwyddiadau cyffrous naill ai wedi neu ar fin cael eu cynnal er mwyn meithrin teimlad o berchnogaeth o’r Egin mewn cymunedau ar draws Sir Gâr.

Gan weithio gyda’r Mentrau Iaith, mae’r prosiect hwn hefyd yn annog cyfranogiad digidol ac yn dangos i bobl ledled y sir bod gyda nhw gyfle i gael gyrfa yn y cyfryngau tra’n dal i fyw o fewn y sir.  Elfen allweddol arall fydd y gallu i hyrwyddo’r Egin fel canolfan greadigol a fydd ar gael i gymunedau, clybiau a sefydliadau ar draws y rhanbarth i’w defnyddio a’i mwynhau.

Yn ystod y sesiynau a drefnwyd gan Fenter Dinefwr yn Llanymddyfri yn ddiweddar, fe wnaeth Guto Rhun, Is-Gynhyrchydd gyda Boom Plant ymweld â Choleg Llanymddyfri ac Ysgol Rhys Prichard i gynnal gweithdai flogio. Yn ystod y sesiynau bu’r disgyblion yn creu flogs cyfrwng Cymraeg a fydd yn cael eu darlledu ar raglen Stwnsh ar S4C maes o law. 

Yn ogystal, trefnwyd bod Megan Williams, cyflwynydd Tywydd S4C yn ymweld â phlant cyfnod sylfaen Ysgol Rhys Prichard er mwyn sôn am ei swydd, a sut y mae’n mynd ati i baratoi bwletin.  Cafodd y plant hefyd gyfle i roi tro ar fod yn gyflwynwyr am y dydd.

Ac roedd Yr Egin yn Llanymddyfri i groesawu’r sawl a wnaeth yn ddiweddar gwblhau taith gerdded i godi arian ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr.  Cafodd y cerddwyr gyfle i gysgodi ym mhod Yr Egin yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri tra hefyd cael y cyfle i ddysgu mwy am waith rhai o denantiaid Yr Egin trwy brofiad rhithwir cwmni Optimwm a phrofiad o ddefnyddio ap amser cwmni Atebol.

“Yn dilyn blwyddyn gynta’ gyffrous o ymgartrefu yng Nghanolfan S4C Yr Egin - lle bu dros 10,000 o blant, pobl ifanc ac oedolion yn ymweld â ni i gymryd rhan mewn gweithdai, gwylio perfformiadau, mynychu cyfarfodydd a chael hyfforddiant - rwy’n falch iawn ein bod trwy’r Grwp Cefn Gwlad a grant LEADER yn medru adeiladu ar hynny eleni ac ymweld â chymunedau ar draws Sir Gâr,”

Meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin.

“Mae codi ymwybyddiaeth o’r cyfleon sydd ar gael i drigolion y Sir o fewn y diwydiannau creadigol yn sgil Yr Egin - boed hynny o ran gyrfa, hyfforddiant neu hamdden - yn elfen bwysig o sicrhau bod y weledigaeth clir sy’n gonglfaen i’r datblygiad yn cael ei wireddu.  

“Trwy gydweitho gyda’r Mentrau Iaith mae wedi bod yn bosibl atgyfnerthu un o’n prif nodau, sef cefnogi’r Gymraeg a datblygu gweithlu ddwyieithog,”

Atega Carys.

“Mae gan y Mentrau arbenigedd a chysylltiadau o fewn eu cymunedau ac felly mae'n bosibl i’r prosiect ymgysylltu hon ategu at eu strategaethau hybu iaith hwy mewn ardaoledd penodol. Yn ogystal, wrth deithio’r Sir rydym yn awyddus i hyrwyddo’r cynnwys digidol anhygoel sy’n cael ei greu gan denantiaid yn Yr Egin megis Moilin ac Optimwm – cwmniau sy’n cael eu rhedeg gan bobl sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Gâr - er mwyn datblygu balchder a hyder trigolion y Sir gan eu sbarduno’n greadigol.”

Mae gweledigaeth Yr Egin yn llawer mwy nag adeilad yn unig a’r bwriad yw gweld effaith y datblygiad yn cael ei deimlo ledled Sir Gâr.  Y  gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn helpu’r Brifysgol i ysbrydoli llu o sefydliadau cymdeithasol a chymunedol o fewn y rhanbarth.    

“Mae’r prosiect hwn yn rhoi cyfle i'r Brifysgol weithio’n agos gyda phartneriaid lleol allweddol – sefydliadau cymunedol, addysgol a busnes yn ogystal â S4C,”

Meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost campws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

“Mae hwn yn brosiect pellgyrhaeddol ac uchelgeisiol sy’n anelu at wneud yn fawr o fanteision cymdeithasol ac economaidd adleoli S4C i Gaerfyrddin gan hefyd gyfrannu at gynlluniau adfywio uchelgeisiol Cyngor Sir Gâr.”

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy ‘Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020’, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.