Mae busnesau yn y sector Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau coronafeirws diwethaf bellach yn gallu cael gwybod faint y dylent ei dderbyn gan rownd ddiwethaf pecyn cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau.

Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £340 miliwn i helpu busnesau yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau coronafeirws a ddaeth i rym ar 4 Rhagfyr.

Mae’r pecyn diweddaraf yn cynnwys Cronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau gwerth £160 miliwn, yn bennaf ar gyfer busnesau sy’n talu ardrethi annomestig, a chronfa grant gwerth £180 miliwn yn benodol ar gyfer busnesau yr effeithir arnynt yn y sectorau twristiaeth, hamdden a lletygarwch.  

O dan y rownd ddiweddaraf o gymorth gan Lywodraeth Cymru, gallai busnes lletygarwch arferol yng Nghymru, sy’n cyflogi staff cyfwerth â chwe swydd llawn amser, fod yn gymwys i dderbyn rhwng £12,000 a £14,000 i’w helpu yn ystod y cyfnod newydd o gyfyngiadau ac yn y Flwyddyn Newydd.

O dan y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau gwerth £160 miliwn, bydd busnesau yr effeithir arnynt yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden, sectorau manwerthu a'u cadwyn gyflenwi sy’n talu ardrethi annomestig, yn gymwys i gael taliad untro rhwng £3,000 a £5,000.

Disgwylir i fusnesau lletygarwch a dderbyniodd gyllid yn gysylltiedig ag ardrethi annomestig o dan gyfyngiadau’r cyfnod atal byr blaenorol dderbyn taliad cyn y Nadolig. Fodd bynnag, bydd rhaid i bob busnes arall gofrestru yn y Flwyddyn Newydd i dderbyn ei daliad.

Caiff cwmnïau yr effeithir arnynt, gan gynnwys y rheini nad ydynt yn talu ardrethi busnes, hefyd wneud cais am ran o’r Gronfa Benodol i’r Sector gwerth £180 miliwn. Disgwylir i’r rhan hon o’r pecyn, sy’n cael ei chyfrifo ar sail trosiant busnes a nifer ei staff, roi cymorth i hyd at 8,000 o fusnesau yn y sector yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau, ac o bosibl 2,000 eraill yn y cadwyni cyflenwi cysylltiedig.

Bydd gwiriwr cymhwystra newydd a chyfrifiannell yn mynd yn fyw ar wefan Busnes Cymru ar 10am dydd Gwener 11 Rhagfyr, i helpu busnesau i gyfrifo faint o gymorth y gallant ddisgwyl ei dderbyn. Hefyd bydd canllawiau ar gael i gwmnïau i’w helpu gyda’r broses o wneud cais am y Gronfa Benodol i’r Sector, a fydd yn agor yn yr wythnos sy’n dechrau ar 11 Ionawr.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

Rydyn ni’n gwybod pa mor anodd yw’r cyfyngiadau diweddaraf ar gyfer ein busnesau lletygarwch, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn; ond mae’r ffaith bod nifer yr achosion o’r coronafeirws yn codi wedi ein gorfodi i wneud penderfyniadau anodd i ddiogelu iechyd pobl ac achub bywydau.  

Mae’r dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys papur diweddar gan Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau’r DU (SAGE) yn dweud wrthon ni fod mesurau yn ardaloedd Lefel 3 yn yr Alban a Haen 3 yn Lloegr yn effeithiol wrth leihau lledaeniad y feirws. Rydyn ni wedi cyflwyno’r rownd ddiweddaraf hon o gyfyngiadau i alinio ein mesurau â Lefel 3 yn y Alban a Haen 3 yn Lloegr.

Drwy’r pecyn cymorth £340 miliwn hwn rydyn ni’n gweithio i helpu busnesau yn y sector lletygarwch yn uniongyrchol, ac i roi cymorth ariannol iddynt cyn gynted ag y bo modd. Bydd llawer yn derbyn rhwng £3,000 a £5,000 cyn y Nadolig, a byddant hefyd yn gallu gwneud cais am y grant penodol i’r sector a fydd yn dilyn yn y Flwyddyn Newydd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

Rydyn ni’n llawn ymwybodol, diolch i raddau helaeth i’n grŵp rhanddeiliaid, o effeithiau’r cyfyngiadau y bu rhaid inni eu rhoi ar waith. Doedd yr un ohonon ni am weld Nadolig o’r fath, ond hoffwn i annog busnesau i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael a defnyddio’r cyfrifiannell i cyfrifo faint y gallan nhw ddisgwyl ei dderbyn, er mwyn cynllunio’n briodol.

Bydden ni’n parhau i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi ein busnesau a’n pobl nes bod yr argyfwng ofnadwy hwn drosodd.

Mae’r cyllid diweddaraf hwn gan Lywodraeth Cymru yn ychwanegol at gymorth arall gan Lywodraeth y DU, fel y Cynllun Cadw Swyddi, gan ei wneud y pecyn cymorth mwyaf hael yn y DU.