Ben Robinson of AUSmeat

Mae prosiect ymchwil pwysig wedi cymryd cam ymlaen wrth iddo geisio gwella’r enw da rhagorol sydd gan ddiwydiant cig eidion Cymru.  Gwnaeth hynny â chwrs hyfforddi a fu’n edrych ar y dulliau gorau sy’n bodoli yn fyd-eang ar gyfer graddio cig yn ôl ei ansawdd.

Y mis hwn, gwahoddodd Prosiect BeefQ, sydd dan adain Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, gynrychiolwyr o’r sector prosesu cig yng Nghymru i sawl diwrnod o hyfforddiant dwys pan fu cyfle i ddysgu am system raddio Meat Standards Awstralia (MSA) gan arbenigwyr oddi yno.

Fel canlyniad i’r digwyddiad, a drefnwyd mewn dau ladd-dy mawr gan Hybu Cig Cymru (HCC), bydd sawl graddiwr ansawdd cig ar gael mewn lladd-dai sydd yn gymwys i brosesu Cig Eidion Cymru PGI. Yn nes ymlaen ym mhrosiect BeefQ, bydd y graddwyr hyn yn gallu trosglwyddo eu harbenigedd i gynhyrchwyr mewn arddangosiadau, a dangos sut mae’r hyn sy’n digwydd ar y fferm yn dylanwadu ar ansawdd carcasau.

Mae’r prosiect, a fydd yn para am dair blynedd, yn cael ei gefnogi gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.  Y nod yn y pen draw yw gwella ansawdd bwyta a gwerth Cig Eidion Cymru a chynyddu’r elw i ffermwyr a phroseswyr.

Dywedodd Deanna Jones o HCC:

"Mae’r hyfforddiant hwn yn gam cyntaf pwysig ym mhrosiect BeefQ, a fydd yn y pen draw, gobeithio, yn rhoi hwb sylweddol i sector Cig Eidion Cymru. Roeddem wrth ein bodd fod cynrychiolwyr allweddol o blith y proseswyr mwyaf yn gallu mynychu.

"Mae system Awstralia yn cael ei hystyried y gorau yn y byd o ran darogan ansawdd bwyta cig eidion. Roedd yn werthfawr iawn, felly, ein bod yn gallu dod ag arbenigwyr o Awstralia i drafod sut y gallem ddefnyddio’r system yng Nghymru, a hyfforddi pobl – trwy hyfforddiant ymarferol ac addysg dosbarth - ar sut i’w defnyddio."

Dywedodd Dr. Pip Nicholas-Davies o Brifysgol Aberystwyth:

"Ers i BeefQ gael ei lansio’n ffurfiol yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ddiwedd 2018, rydym wedi bwrw ymlaen gyda’n partneriaid i roi cynllun y prosiect ar waith.

"Yn ogystal â’r cwrs hyfforddi, rydym yn paratoi i wneud arolwg o'r anifeiliaid sy’n cael eu prosesu gan y proseswyr sy’n rhan o’r prosiect, a byddwn yn dewis amrediad o anifeiliaid i’w graddio yn ôl ansawdd bwyta eu cig. Bydd samplau o gig o’r anifeilaidd hyn yn cael eu blasu wedyn gan ddefnyddwyr. Caiff y samplau cyntaf eu casglu’r mis hwn, a bydd samplau pellach yn cael eu casglu yn yr hydref i ganfod gwahaniaethau tymhorol."