Habitat Wales Scheme

Datganiad Ysgrifenedig gan Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd:

Rwy'n falch o gyhoeddi, o ddydd Gwener 29 Medi, gellir gwneud ceisiadau ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru, gyda chontractau'n dechrau ym mis Ionawr 2024.

Bydd Cynllun Cynefin Cymru yn gynllun amaeth-amgylchedd dros dro newydd i sicrhau trosglwyddiad di-dor o ddiwedd Glastir ym mis Rhagfyr 2023 hyd at ddechrau'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2025.

Mae'r cynllun yn rhan bwysig o'n hymateb i'r argyfwng natur.  Mae'n cynnig cyfle i gynnal a chynyddu'r ardal o dir cynefin sy'n cael ei reoli ledled Cymru a bydd ar gael i bob ffermwr cymwys, gan gynnwys ffermwyr Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig.

Bydd yn sicrhau y bydd y gwaith sydd wedi digwydd trwy Glastir yn parhau ac yn cael ei ymestyn wrth inni weithio tuag at gyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2025.

Bydd aelodau'n ymwybodol iawn o'r sefyllfa ariannol hynod anodd rydym yn ei hwynebu, sy'n cael effaith ar bob portffolio. Mae ein sefyllfa ariannol hyd at £900m yn is na'r disgwyl mewn termau real adeg yr adolygiad gwariant diwethaf yn 2021, oherwydd chwyddiant a phrisiau ynni uchel iawn a bod Llywodraeth y DU wedi camreoli'r economi.

Fel y gwyddoch, bu'r Cabinet yn gweithio gydol yr haf i wneud popeth o fewn ein gallu i liniaru'r pwysau cyllidebol hwn. Unwaith y bydd y gwaith hwn wedi'i gwblhau, byddaf mewn sefyllfa i gadarnhau'r gyllideb ar gyfer y Cynllun.

Rydym yn agor y cynllun nawr fel y gall ffermwyr sydd â diddordeb weld manylion y cynllun a'r cyfraddau talu arfaethedig a gwneud cais, yn barod i gontractau ddechrau ym mis Ionawr.

Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb parhau â thraddodiad balch Cymru o gyfranogiad amaeth-amgylcheddol, sy'n anelu at fod o fudd i'n bioamrywiaeth frodorol a brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, i ystyried gwneud cais i Gynllun Cynefin Cymru, unwaith y bydd ffenestr y cais ar agor.

Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau.

Dolenni perthnasol: Cynllun Cynefin Cymru