CYFLWYNIAD
1. Mae’r Nodiadau Cyfarwyddyd hyn yn egluro sut y bydd proses Datgan Diddordeb y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd yn gweithio.
2. Darllenwch y nodiadau hyn yn ofalus. Bydd angen i chi hefyd gyfeirio at:
- Nodiadau Cyfarwyddyd Datganiad o Ddiddordeb Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-20
- y Nodiadau Cyfarwyddyd ar gyfer y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd.
Mae’r rhain i’w cael drwy glicio ar y cyfeiriad gwe isod.
AMSERLENNI
3. Cyhoeddir y dyddiadau ar wefan Llywodraeth Cymru (gweler y ddolen uchod) ar sail dwy flynedd dreigl, ac fe allen nhw gael eu hadolygu. Bydd hyn yn galluogi ymgeiswyr i flaengynllunio eu ceisiadau i ddiwallu anghenion eu busnes mewn perthynas â’r amserlen.
CYLLID SYDD AR GAEL
4. Bydd cyllideb o £2,000,000 ar gael ar gyfer Rownd 8 o CBBB.
5. Bydd prosiectau yn cael eu capio ar y grant a ofynnwyd amdano ar y Cais DoD, felly cynghorir i’r ymgeiswyr gael costau realistig am oes y prosiect.
Uchafswm y Gyfradd Grant: £500,000.00 – Caiff ymgeiswyr ymgeisio fwy nag unwaith drwy gydol cyfnod y cynllun ond dim ond un cais y gellir ei ystyried ar y tro.
Isafswm y Grant: £2,400
Cyfradd Ymyrraeth y Grant
Pan fo’r mewnbwn a’r allbwn yn gynnyrch amaethyddol, mae uchafswm y cyfraddau grant fel a ganlyn:
Busnesau Bach a Chanolig – hyd at 40% o gyfanswm cost y buddsoddiad cymwys lle bynnag yr ydych wedi eich lleoli.
Busnesau Mawr – hyd at 20% o gyfanswm cost y buddsoddiad lle bynnag yr ydych wedi eich lleoli.
Pan fo’r mewnbwn yn gynnyrch amaethyddol a’r allbwn yn gynnyrch anamaethyddol, mae uchafswm y cyfraddau grant fel a ganlyn:
Ardaloedd Llai Datblygedig:
Micro-fentrau a Busnesau Bach – hyd at 40% o gyfanswm y cost y buddsoddiad cymwys.
Busnesau Canolig – hyd at 35% o gyfanswm cost y buddsoddiad cymwys.
Ardaloedd Eraill:
Busnesau Bach a Chanolig – hyd at 40% o gyfanswm cost y buddsoddiad hyd at drothwy grant €200,000 yn ystod unrhyw gyfnod o dair blynedd lle bynnag yr ydych wedi eich lleoli.
Neu:
Micro-fentrau a Busnesau Bach – hyd at 20% o gyfanswm cost y buddsoddiad cymwys.
Busnesau Canolig – hyd at 10% o gyfanswm cost y buddsoddiad cymwys.
Busnesau Mawr – hyd at 20% o gyfanswm cost y buddsoddiad hyd at drothwy grant €200,000 yn ystod unrhyw gyfnod o dair blynedd lle bynnag yr ydych wedi eich lleoli.
PWY ALL YMGEISIO?
6. Busnesau sy’n ymwneud â’r brif broses a / neu’r broses eilaidd o gynhyrchu amaethyddol, megis unig fasnachwyr, sefydliadau’r sector gwirfoddol, cwmnïau cyfyngedig preifat a cyhoeddus (micro-fentrau, a busnesau bach, canolig a mawr), busnesau fferm sydd am brosesu eu cynnyrch amaethyddol eu hunain, busnesau newydd, gan gynnwys y rheini sy’n dechrau busnes.
METHODOLEG SGORIO A MEINI PRAWF
7. Bydd prosiectau’n cael eu sgorio gan ddefnyddio’r ‘meini prawf Datganiad o Ddiddordeb’ ar dudalen 4 y ddogfen hon. Dim ond gwybodaeth berthnasol sydd yn y Datganiad o Ddiddordeb a gaiff ei hystyried.
SUT MAE GWNEUD CAIS
8. Am fanylion llawn am sut i wneud cais darllenwch y ddogfen Nodiadau Cyfarwyddyd Datganiad o Ddiddordeb drwy ddilyn y ddolen y cyfeirir ati uchod.
9. Rhaid llenwi ceisiadau Datganiad o Ddiddordeb ar y ffurflen gais sydd ar ddiwedd y ddogfen hon.
10. Dylai ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen Datganiad o Ddiddordeb yn electronig. Gellir ehangu adrannau fel y bo angen. Sylwch fod rhaid cynnwys yr holl wybodaeth ar y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb. Ni dderbynnir dogfennau ychwanegol na gwybodaeth ategol ar y cam Datgan Diddordeb.
11. Dylid anfon ceisiadau drwy e-bost i: FoodBIS@llyw.cymru a dylid cyflwyno’r ceisiadau o gyfeiriad e-bost yr ymgeisydd, neu ar ffurf copi wedi’i arwyddo a’i sganio drwy asiant.
12. Dylir pob ymgeisydd gofrestru ar RPW ar-lein cyn dyddiad cau’r DoD gan y bydd pob gwahoddiad i Gais Llawn yn cael ei wneud drwy RPW ar-lein. RPWOnline@gov.wales
13. Caiff yr holl DoD eu sgorio a'u rhestru yn nhrefn y meini prawf sgorio. Dewisir Datganiadau o Ddiddordeb yn seiliedig ar eu safle tan y bydd y gyllideb ffenestr wedi'i hymrwymo'n llawn.
14. Ni dderbynnir ceisiadau Datganiad o Ddiddordeb ar ôl y dyddiad cau a nodir.
Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd Datganiad o Ddiddordeb Meini Prawf a Ffurflen Gais yma: https://llyw.cymru/cynllun-buddsoddi-mewn-busnesau-bwyd-datganiad-o-ddiddordeb-meini-prawf-ffurflen-gais?_ga=2.5844411.924493701.1571128740-413311742.1543317556