Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: 

Rydym wedi bod wrthi am saith mlynedd yn trafod creu cynllun cymorth i ffermwyr sy’n gweithio i Gymru. Dwi’n ymrwymo i barhau i wrando ar ffermwyr a'r holl randdeiliaid a gweithio gyda nhw, i ddatblygu Cynllun a fydd yn ein helpu i wireddu'n huchelgais i wneud Cymru'n arweinydd byd ym maes ffermio cynaliadwy. 

Mae pawb rwyf wedi cwrdd â nhw ers i mi ddechrau ar fy swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn cytuno bod cynhyrchu bwyd diogel o ansawdd uchel yng Nghymru yn hanfodol i’n dyfodol. Ond mae ffermio yn rhoi i ni lawer mwy na'r bwyd rydyn ni'n ei fwyta. Mae'n hanfodol fod gennym ddiwydiant llewyrchus i gynnal ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a rhoi cyfoeth o fuddiannau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol i ni.

Bydd angen i'r cynllun cymorth i ffermwyr yn y dyfodol esgor ar lawer o ganlyniadau i Gymru gyfan, ond rhaid i ffermwyr fod yn ganolog iddo. Cynhyrchu bwyd a safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid fydd sylfaen y cymorth hwnnw, ynghyd â gwella perfformiad amgylcheddol, ymateb i argyfwng yr hinsawdd a gwella bioamrywiaeth ffermydd. Nid oes modd i ni wneud hyn ar ein pen ein hunain. 

Dwi wedi gwrando ar bryderon y ffermwyr, yr undebau ffermio a’r rhanddeiliaid eraill dwi wedi cwrdd â nhw, ac er ein bod dal wrthi'n dadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), dwi am symud ymlaen i sicrhau ein bod yn ysgwyddo ein hymrwymiadau. Rwyf wedi cyfarfod ag Aelod Dynodedig Plaid Cymru a byddaf yn cynnal deialog gyson i gefnogi’r Cytundeb Cydweithredu.

Byddaf yn annerch Aelodau'r Senedd ar 14 Mai am y datblygiadau diweddaraf i’r SFS a sut dwi’n cynnig i bethau fynd yn eu blaen. Dwi'n addo gwneud hyn mewn partneriaeth, gan ystyried y pryderon dwi wedi’u clywed ac i ddelio â nhw er mwyn i ni allu bwrw ymlaen â chynllun sy'n ein helpu i wireddu'n huchelgais i wneud ffermwyr Cymru yn arweinwyr byd ym maes ffermio cynaliadwy. Mae economïau ledled y byd yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd i sicrhau bod y gweithredoedd sydd eu hangen i ddiogelu dyfodol ein planed yn cael eu cynnal mewn ffordd sy’n sicrhau pontio teg i gymunedau ym mhob man. Mae cefn gwlad Cymru’n cynhyrchu peth o gynnyrch gorau’r byd, hynny gan ffermwyr sy’n cynnal ac yn gofalu am y tirweddau a chymunedau sy’n ysbrydoli ac yn meithrin pobl yma ac ymwelwyr o bob rhan o’r byd. Dyna pam mae’r newidiadau i’r cymorth rydyn ni’n ei roi i ddiogelu dyfodol ffermio yng Nghymru yn ennyn teimladau mor gryf. Mae’r pwyslais dwi’n ei roi ar ddeialog a gwrando yn gydnabyddiaeth o’r effaith y mae’r penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud ar y cyd yn ei chael ar Gymru gyfan ac ar les cenedlaethau’r dyfodol. 

Dyna pam fy mod i heddiw yn cyhoeddi Ford Gron Gweinidogol ar yr SFS a fydd yn cynnwys ffermwyr, mudiadau cynrychioliadol fel yr Undebau Ffermio a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb mewn creu diwydiant amaethyddol cynaliadwy yng Nghymru. 

Bydd y Ford Gron o dan fy nghadeiryddiaeth yn ystyried canlyniadau rhaglenni a'r camau sydd angen eu cymryd i ddatblygu cynllun diwygiedig sy'n dderbyniol, cyn i Weinidogion Cymru benderfynu'n derfynol ar y mater. Bydd yn ystyried tystiolaeth fel y dadansoddiad o'r ymgynghoriad, yr asesiad economaidd newydd a ffrwyth trafod grŵp swyddogion yr SFS a grwpiau gorchwyl a gorffen eraill. 

Y bwriad yw gweithio'n gyflym i nodi'r meysydd y gallwn gytuno arnyn nhw er mwyn gallu canolbwyntio wedyn ar y meysydd lle mae angen mwy o waith. Dwi'n disgwyl gweld cynnal cyfarfod cyntaf y Ford Gron ym mis Mai a fy mlaenoriaeth fydd gwrando ar y pynciau trafod a phenderfynu ar ffordd ymlaen a fydd, gobeithio, yn ateb gofyn pawb. 

Gyda hynny mewn golwg, un o dasgau cyntaf Ford Gron Gweinidogol yr SFS fydd ystyried unrhyw syniadau eraill ac amgen ar sut y gellid defnyddio’r SFS i ddal a storio rhagor o garbon. Mae'r Undebau Ffermio a rhanddeiliaid eraill yn credu y dylai'r Cynllun edrych y tu hwnt i'r Gweithredoedd presennol, fel plannu rhagor o goed. Bydd y grŵp hwn yn ystyried hynny.

Bydda' i'n disgwyl i'r grŵp o bartneriaid sy’n gwneud y gwaith hwn gyda ni i ganolbwyntio ar y dystiolaeth ar gyfer gweithredoedd i'n helpu i ddal a storio rhagor o garbon ac i ystyried maint y cyfle sydd yma yng Nghymru. Bydd Ford Gron Gweinidogol yr SFS yn ystyried y gwaith hwn ac yn y pen draw yn fy helpu i benderfynu ar y Cynllun. Dwi'n bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r dystiolaeth a geir gan yr is-grŵp tystiolaeth fel rhan o fy ymrwymiad i weithio mewn ffordd agored a chynhwysol yn y maes pwysig hwn sy’n ennyn cymaint o deimladau.

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn dangos y camau y byddwn yn eu cymryd i weithio mewn partneriaeth i lunio Cynllun sy'n gweithio yn y tymor hir. Gyda'n gilydd gallwn greu dyfodol lle bydd ein ffermwyr yn cynhyrchu'r bwyd gorau at y safonau uchaf, ac yn diogelu yr un pryd ein hamgylchedd gwerthfawr ac yn mynd i'r afael ar fyrder â'r argyfyngau hinsawdd a natur.