Datganiad Ysgrifenedig gan Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd:

Rwy'n cyhoeddi cynllun amaeth-amgylcheddol dros dro i gynnal a chynyddu arwynebedd y tir cynefin sy'n cael ei reoli ledled Cymru. Bydd y cynllun yn cynnal cefnogaeth amgylcheddol o 1 Ionawr 2024 tan ddechrau'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2025. Wrth bontio i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy bydd hyn yn darparu cefnogaeth amgen i’r holl ffermwyr cymwys, gan gynnwys ffermwyr Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig pan ddaw eu contractau i ben ar 31 Rhagfyr 2023.

Wrth iddo ddirwyn i ben, mae ffermwyr ac amgylchedd Cymru wedi elwa'n fawr o Raglen Datblygu Gwledig - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru.  Ers cyhoeddi contractau Glastir cyntaf yn 2012, mae ffermwyr Cymru wedi elwa o dros £336m o gyllid, gan gefnogi'r sector i gyfrannu tuag at ein hymrwymiadau datgarboneiddio a bioamrywiaeth.

Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer y cynllun cynefin dros dro yn agor yn ddiweddarach eleni, gyda chontractau'n dechrau ym mis Ionawr 2024 i sicrhau trosglwyddiad di-dor o Glastir i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Bydd y cynllun newydd yn targedu meysydd lle gallwn gyflawni'r buddion amgylcheddol mwyaf.  Mae hwn yn gam pwysig wrth i ni symud ymlaen tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a’i egwyddorion Rheoli Tir Cynaliadwy, a fydd yn cefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, tra’n mynd i’r afael a’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Bydd rhagor o fanylion am y cynllun newydd ar gael yn dilyn trafodaethau gyda rhanddeiliaid. Bydd y gyllideb sydd ar gael yn cael ei chyhoeddi cyn i'r ffenestr ymgeisio agor.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod toriad er mwyn hysbysu aelodau. Pe bai aelodau'n dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.