Food and drink companies in Wales

Cefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Bydd y ffenestr Datgan Diddordeb yn agor ar 17 Tachwedd 2022 a chaiff proses ddewis ei chynnal bob 4 wythnos i wahodd ymgeiswyr llwyddiannus i gyflwyno cais llawn. Bydd y ffenestr yn parhau ar agor nes bod y gyllideb wedi ei dyrannu.

Y gyllideb sydd wedi’i dyrannu yw £40m.

Bwriad yr FBAS yw helpu'r busnesau hynny sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.  Ei nod yw gwella perfformiad, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ei fusnesau a’u gwneud yn fwy cystadleuol; eu helpu i ymateb i'r galw ymhlith defnyddwyr; eu hannog i arallgyfeirio; ac adnabod a gwasanaethu marchnadoedd newydd a marchnadoedd cyfredol a manteisio arnynt.

Mae'r FBAS yn talu am fuddsoddi cyfalaf mewn offer prosesu a seilwaith, ynghyd â rhai costau cysylltiedig, ac yn cefnogi prosiectau sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ac sut i neud cais ar gael yma: https://www.llyw.cymru/cynllun-sbarduno-busnesau-bwyd