Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 9 Ionawr 2023 ac yn cau ar 3 Mawrth 2023. Mae cyllideb ddangosol o £3 miliwn wedi’i dyrannu ar gyfer y cyfnod ymgeisio hwn.
Mae’r cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd yn gynllun ar wahân i gynlluniau eraill ac yn cynnig uchafswm o £7,500 o gyllid fesul ffenest ar gyfer cynnal Prosiectau Gwaith Cyfalaf. Mae rhestrau penodol o Waith Cyfalaf ar gael i helpu i sicrhau canlyniadau amgylcheddol llesol o dan y pedair thema ganlynol:
- Carbon
- Dŵr
- Tirwedd a Phryfed Peillio
- Creu gwrychoedd
Bydd rownd hon y cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd yn canolbwyntio ar Greu Gwrychoedd.
Bydd rheolwyr tir a busnesau ffermio yn cael eu dewis ar gyfer Grantiau Bach - Amgylchedd, ar ôl Datgan Diddordeb wrth Lywodraeth Cymru. Caiff y Datganiad o Ddiddordeb ei sgorio yn ôl ei allu i gyfrannu at gyflawni amcanion thema Grantiau Bach – Amgylchedd. Y rheini fydd yn gallu cyfrannu fwyaf at gyflawni amcanion y thema fydd yn cael y sgôr uchaf. (Gweler Dewis Adran E)
Darllenwch y ddogfen hon ar reolau’r cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd, a’r canllawiau cyn cyflwyno Datgan o Diddordeb.
Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol.