
Cam 2
Cymryd rhan yng ngham nesaf y cyd-ddylunio
Mae angen:
ffermwyr, ac aelodau eraill o'r gymuned wledig arnom i'n helpu i lunio cynigion ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Byddwn yn lansio cam nesaf y cyd-ddylunio yn ystod Haf 2022. Cofrestrwch eich diddordeb yma.
Ni fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol rydych chi'n ei ddarparu:
- yn ystod eich cofrestriad ar gyfer, ac
- wrth gymryd rhan yn y rhaglen hon o gyd-ddylunio.
I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio'ch data, gweler yma.
Cam 1 (Wedi'i gwblhau)
Gan weithio gyda Menter a busnes, rydym wedi lansio rhaglen ar y cyd. Y llynedd, gwnaethom ymrwymiad i weithio gyda ffermwyr a rheolwyr tir eraill. Byddwn yn gweithio gyda chi i archwilio rhai o'r agweddau mwy ymarferol o'r ymgynghoriad y llynedd.
Rydym yn gwerthfawrogi bod llawer o heriau ar hyn o bryd. Ond mae hwn yn gyfle i gymryd rhan mewn trafodaeth gadarnhaol a blaengar. Mae angen eich syniadau a'ch profiad arnom i helpu i gynllunio polisi ar gyfer y dyfodol wrth i ni barhau i:
- paratoi ar gyfer ein gwyro oddi wrth yr UE
- taclo'r argyfwng hinsawdd
- gynhyrchu bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel
Bydd y cam cyd-ddylunio hwn yn canolbwyntio ar y broses arfaethedig o adolygu cynaliadwyedd ffermydd. Bydd hefyd yn cynnwys pedwar prif faes ar gyfer gweithredu fel y cynigir yn yr ymgynghoriad. Mae'r rhain yn cynnwys:
- cyfleoedd datblygu ffermydd - archwilio syniadau i gefnogi rheoli fferm yn gynaliadwy, a'ch helpu i wneud unrhyw newidiadau. Gallai hyn olygu creu strategaeth datblygu ffermydd. Byddai hyn yn cynnwys ffyrdd i'ch helpu i gyflawni uchelgeisiau tymor byr, canolig a hir
- hwsmonaeth pridd - ystyried syniadau ar gyfer rheoli maetholion a thail yn well, a gwella strwythur y pridd
- rheoli cynefinoedd - sut i symud o gynllun rhagnodol i ddull sy'n cael ei arwain gan ffermwyr
- iechyd a lles anifeiliaid - cynigion ar gyfer gwell cynllunio iechyd yn seiliedig ar weithredu a bioddiogelwch ar ffermydd
Nid gwneud penderfyniadau terfynol yw'r nod o gyd-ddylunio. Mae'n gyfle i ddysgu o'ch profiad a'ch syniadau i helpu i ddatblygu cynigion pellach.
Mae tair ffordd i gymryd rhan:
- arolwg ar-lein, a
- cyfres o drafodaethau un i un. Oherwydd coronafeirws (COVID-19), bydd y trafodaethau un i un yn cael eu cynnal dros y ffôn. Mae gweithdai'r grwpiau a drefnwyd wedi'u gohirio
- gweithdai a drefnwyd ar gyfer grwpiau yn cael eu cynnal drwy ddulliau rhithwir yn ystod mis Gorffennaf
Cewch ragor o wybodaeth yn Menter a Busnes, lle byddwch yn gallu cofrestru. Bydd yr arolwg a chofrestru ar gyfer trafodaethau un i un a rhith-weithdai grwp ar gael tan 30 Mehefin.
Rydym wedi cyhoeddi ymateb i’r ymgynghoriad ar Ffermio Cynaliadwy a'n Tir.