Bydd y cyfnod ymgeisio yn dechrau ar 6 Tachwedd ac yn cau ar 12 Ionawr 2024.
Mae cyllideb o £1m wedi’i ddyrannu ar gyfer y cyfnod ymgeisio hwn.
Cynllun grant cyfalaf yw'r Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol, sydd ar gael i ffermwyr ym mhob rhan o Gymru. Amcanion y cynllun yw:
- helpu i sefydlu mentrau arallgyfeirio amaethyddol hyfyw newydd ar ffermydd
- helpu i ddatblygu mentrau gwreiddiol neu arbenigol sy’n bod eisoes
- gwneud amaethyddiaeth Cymru yn fwy cydnerth trwy ddatblygu ffrydiau incwm amrywiol
- lleihau’r ddibyniaeth ar fentrau amaethyddol traddodiadol
- ymateb i gyfleoedd mewn marchnadoedd newydd a datblygu marchnadoedd newydd.
Darllenwch ganllaw a llyfryn rheolau’r cynllun cyn cyflwyno cais.
Mae'r cynllun yn un dewisol. Bydd swm y grant a gynigir yn dibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn, a bydd bob amser y swm lleiaf sydd ei angen i’r buddsoddiad allu mynd yn ei flaen. Os caiff eich cais ei ddewis, rhaid ichi gwblhau a hawlio’r holl eitemau Gwaith Cyfalaf erbyn 31 Mawrth 2025.
Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a sut i wneud cais am y grant hwn yma: https://www.llyw.cymru/cynllun-arallgyfeirio-amaethyddol