Horticulture Development Scheme (Window 3)

Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 6 Tachwedd 2023 ac yn cau ar 12 Ionawr 2024.

Y dyraniad cyllideb dangosol ar gyfer y cyfnod ymgeisio hwn yw £1m.

Mae'r cynllun Datblygu Garddwriaeth yn gynllun grant Cyfalaf sydd ar gael i gynhyrchwyr garddwriaethol masnachol presennol ledled Cymru. Nod y cynllun yw:

  • cynorthwyo cynhyrchwyr garddwriaethol masnachol presennol i ddatblygu eu busnesau drwy fuddsoddi mewn cyfarpar a thechnoleg newydd sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r busnes garddwriaethol.
  • galluogi busnesau garddwriaethol i ehangu cynhyrchiant yn gynaliadwy, arallgyfeirio i dyfu cnydau newydd, gwella effeithlonrwydd cynhyrchu a gwella ansawdd y cynnyrch.
  • galluogi cynhyrchwyr garddwriaethol i fynd i farchnadoedd newydd. Cynyddu cyflogaeth leol a chefnogi'r economi wledig fel rhan o'r adferiad gwyrdd o Covid-19.

Mae'r cynllun yn ddewisol. Byddai swm y grant a gynigir yn ymwneud ag amgylchiadau unigol, a bydd pob swm yn isafswm angenrheidiol i ganiatáu i'r buddsoddiadau fynd rhagddynt.

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a sut i wneud cais am y grant hwn yma: https://www.llyw.cymru/horcynllun-datblygu-garddwriaeth