Aelodau Grŵp Llywio

Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020 sy’n darparu ail golofn y Polisi Amaethyddol Cyffredin yng Nghymru.  Mae Rhwydwaith Gwledig Cymru yn rheoli’r cyfathrebu ar gyfer y maes hwn.

Yn unol ag arferion gorau yr UE ar lywodraethu rhwydweithiau gwledig cenedlaethol, mae Grŵp Llywio Rhwydwaith Gwledig Cymru wedi’i sefydlu i roi cyngor ac i gynorthwyo gyda gweithredu Cynllun Datblygu Gwledig Cymru.   

Rôl y Grŵp Llywio yw: 

  • Cynghori a chynorthwyo gyda datblygu cynllun gwaith, sy’n cynnwys rhanddeiliaid, i wella ansawdd y broses o weithredu’r Cynllun Datblygu Gwledig, llywio’r cyhoedd yn ehangach a’r rhai a fydd yn elwa o bosib ynghylch y Rhaglen Datblygu Gwledig, a meithrin arloesedd. 
     

 

Eilrlys lloyd

Eirlys Lloyd – Cadeirydd Grwp Llywio

Eirlys yw'r Rheolwr Partneriaethau Cymunedol i Gyngor Sir Ceredigion. Mae'n
rheoli'r gwaith o gynnal rhaglen LEADER Cynllun Datblygu Gwledig
Ceredigion 2014-2020.

Mae prif sgiliau Eirlys yn cynnwys -

  • Arweinydd a rheolwr prosiect profiadol â hanes chadarn o gyflawni prosiectau datblygu gwledig.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o Gyllid Ewropeaidd a Rheoliadau Ewropeaidd.
  • Gweithio ar y cyd â phartneriaid/rhanddeiliaid - enghraifft ddiweddar yncynnwys cyfrannu at ddatblygu Arloesi Bwyd Cymru.
  • Datblygu cymunedol gwledig, gan ganolbwyntio ar ynysu/allgáu yng nghefn gwlad.
  • Datblygu rhwydweithiau'r gadwyn gyflenwi, gweithio gyda chynhyrchwyr, proseswyr a'r sector lletygarwch.

Ar hyn o bryd mae'n Rheolwr Canolfan Bwyd Cymru. Mae'r ganolfan yn
cynnig help technegol i'r diwydiant bwyd a diod ac yn rheoli ac yn gweithredu
unedau hybu busnesau bwyd o ddydd i ddydd, Marchnad Ffermwyr Aberystwyth a nifer o ffeiriau bwyd.

Mae ganddi gefndir ym maes adfywio cymunedau gwledig a phrofiad o weithio gyda rhaglenni cyllid Ewropeaidd a Chenedlaethol. 


Einir Williams

Einir Williams

Mae Einir yn gweithio i Fenter a Busnes ar brosiect Cyswllt Ffermio fel
Rheolwr Datblygu Rhanbarth y Gogledd.

Mae hi'n ei hystyried yn fraint
cyfrannu at ddarparu manteision rhaglen Cyswllt Ffermio newydd i'n ffermwyr
a'n coedwigwyr yng Nghymru.

Bu'n Swyddog Cyswllt Fferm i Lywodraeth Cymru tan 2015 lle yr oedd yn cynnig arweiniad a chymorth i ffermwyr ar gynlluniau Glastir Sylfaenol, Glastir Uwch a Glastir Tir Comin.

Yn 2014, daeth Einir yn bartner busnes yn fferm y teulu gyda'i rhieni a'i
phartner. Un o'r pethau cyntaf a wnaethant oedd achub ar y cyfle i gael Cynllun Busnes Strategol proffesiynol drwy gymorth grant Cyswllt Ffermio.
Roedd hyn yn drobwynt yn hanes y fferm am iddo roi cyfle iddynt greu strategaeth o nodau ac amcanion busnes dros y blynyddoedd i ddod.

O safbwynt cymdeithasol a chymunedol, mae Einir wedi gweld y gwahaniaeth
mawr y mae arian Datblygu Gwledig yn ei wneud yn lleol. Mae grantiau wedi
helpu i adnewyddu Neuadd y Pentref - safle sy'n hollbwysig i drechu'r teimlad
o unigrwydd sy'n gallu bod yn gyffredin mewn cymunedau gwledig anghysbell.


Goronwy Edwards

Cyng Goronwy Edwards

Mae Goronwy wedi bod yn aelod o'r gymuned ffermio ers dros 50 mlynedd. Dros y cyfnod hwnnw mae wedi ymroi fwyfwy i geisio sicrhau bod ein
diwydiannau amaethyddol a'n cymunedau gwledig mewn sefyllfa dda i ymateb i'r heriau newidiol a'r amryfal gyfleoedd sydd o'n blaenau.

Dros y blynyddoedd mae wedi ymgymryd â nifer o wahanol rolau ym maes
amaethyddiaeth, llywodraeth leol a datblygu gwledig. Dyma rai ohonynt -

  • Aelod etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a'r Cyngor cyn
  • hynny sef Gyngor Bwrdeistref Aberconwy ers 1991
  • Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd, Twristiaeth a Hamdden
  • Cyfnod fel Arweinydd Cabinet CBSC
  • Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
  • Aelod o bartneriaeth trafnidiaeth gynaliadwy Goriad Gwyrdd Eryri
  • Aelod o Gyngor Eisteddfod Genedlaethol Cymru
  • Aelod o Fwrdd Croeso Gogledd Cymru
  • Aelod o Gorff Llywodraethu Prifysgolion Cymru
  • Aelod o Gyngor Llyfrau Cymru.

Roedd Goronwy hefyd yn Gadeirydd Grŵp Gweithredu Lleol gwreiddiol
Conwy ac yn rhan o Rwydwaith Gwledig Cymru a Rhwydwaith LEADER y
DU. 


Rachael

Rachael Davies

Mae Rachel a'i gŵr yn ffermio 1200 erw o dir yng Ngwynedd fel menter cig eidion a defaid. Mae'r rhan fwyaf o'r daliad (bron 80%) yn dod o dan gategori ucheldir, ac felly mae ganddi ddealltwriaeth gynhwysfawr o'r pwysau amaethyddol ar ardaloedd o'r fath a'u lle yn amaethyddiaeth Cymru.

Mae gan y fferm ddaliad organig sy'n rhoi pwyslais ar arferion amaethamgylcheddol
ac mae ei fodel busnes wedi ymrwymo i gynaliadwyedd.
Mae Rachael yn unigolyn brwd ac ymroddedig sy'n gweithio ar lefel uwch
mewn busnes manwerthu amaethyddol i dwristiaid yn y Gogledd.

Mae wedi bod yn uwch-reolwr yn y sector manwerthu bwyd ers saith mlynedd ac wedi
rheoli ambell i siop fferm. Yn fwy diweddar mae wedi rheoli busnes
manwerthu arallgyfeirio ar fferm sy'n canolbwyntio ar y diwydiant twristiaeth.
Ar ôl genedigaeth ei phlentyn yn 2012, daeth Rachael yn ôl i Ystâd Rhug i
reoli datblygiad y busnes a changen fanwerthu'r busnes gan gynnwys gwerthu
oddi ar y safle, a datblygu cynllun datblygu cyrchfan i droi Ystâd Rhug yn
gyrchfan i dwristiaid.

 


John davies

John Davies

John yw Rheolwr Ymchwil a Busnes Canolfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran
i Brifysgol Aberystwyth. Sefydlwyd y ganolfan i ddatblygu arloesedd
cynaliadwy newydd yn ardaloedd yr Ucheldir.

Mae'r treialon yn cynnwys datblygu cynhyrchion 'Agroceutical', codlysiau sy'n
gwrthsefyll y tywydd, lleiniau pori dad-ddwysáu yn yr hirdymor, dulliau dwysáu
cynaliadwy, miscanthus ar gyfer sarn (gwely) da byw a chreu gwlyptir integredig. Mae'r ganolfan yn un o safleoedd Arloesi a Datblygu Cyswllt Ffermio.

Mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Canolfan Bwyd Cymru, sef canolfan ddatblygu
o'r radd flaenaf ar gyfer y diwydiant Bwyd-Amaeth drwy Gymru, cynghorydd
Polisi Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a swyddog caffael da byw ar gyfer
menter gydweithredol da byw.

Mae'r rolau mae John wedi'u cyflawni neu wrthi'n eu cyflawni wedi magu
arbenigedd mewn mentrau amaethyddiaeth, coedwigaeth a bwyd. Mae gan
John rôl ehangach fel cynghorydd arbenigol i Fenter Mynyddoedd Cambria a
Phentir Pumlumon.

Mae wedi cyfrannu at ddatblygu economi cymuned ac fe ddatblygodd gynnig
ar gyfer marchnad dan do Aberystwyth. Fe yw Cadeirydd Grŵp Gweithredu
Lleol Ceredigion, gan weinyddu rhaglen LEADER.



 


Delyth

Delyth Davies

Mae gan Delyth brofiad helaeth o weithio yn y sector Amaethyddiaeth a Bwyd
yn ogystal â'r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Mae hefyd wedi bod yn chwarae rhan fawr mewn materion a phrosiectau gwledig.

Mae ganddi gefndir cryf o waith strategol ac o reoli prosiectau a phrofiad helaeth ac amrywiol o weithio a rhwydweithio yn y sector cyhoeddus a phreifat.

Delyth yw Pennaeth Canolfan Datblygu Llaeth Cymru yn Hufenfa AHDB a'i
phrif sgiliau yw -

  • Gweithio yn y sector bwyd-amaeth
  • Gwybodaeth eang a bod yn rhan o bynciau sy'n ymwneud ag amaethhy newid yn yr hinsawdd, cynaliadwyedd amgylcheddol, cyflogaeth ac ati.
  • Datblygu, rheoli a gwerthuso prosiectau
  • Gwybodaeth ddofn a phrofiad o Gyllid Ewropeaidd

 

Nikki

Nikki Williams

Mae Nikki wedi gweithio i Lywodraeth Leol ers 15 mlynedd ac mae wedi magu
dealltwriaeth drylwyr o heriau ac atebion gwledig, economaidd ac adfywio
cymdeithasol. O reoli'r Cynllun Datblygu Gwledig yn Nhorfaen am y saith mlynedd diwethaf, mae wedi datblygu ei sgiliau a'i gwybodaeth ynghylch prif
flaenoriaethau Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru.

Mae ei chefndir fel Swyddog Cynhwysiant Cymdeithasol a Gweithiwr Datblygu
Cymunedol yn golygu bod ganddi wybodaeth a dealltwriaeth helaeth ynghylch
anghenion cymhleth cymunedau gwledig yng Nghymru. Mae ganddi
ddiddordeb ac arbenigedd penodol mewn trechu tlodi a chynhwysiant
cymdeithasol, adfywio gwledig a datblygu economaidd cymunedol.

Mae ei gwaith ar y Rhaglen Datblygu Gwledig yn golygu bod gan Nikki
berthynas waith dda â phartneriaid allweddol ledled Cymru. Mae'n gweithio'n
agos â holl Reolwyr Datblygu Gwledig, Uwch-swyddogion gweithredol yn
Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner cysylltiedig.


Arfon

Arfon Williams

Mae Arfon wedi bod yn gysylltiedig â chynlluniau amaeth-amgylcheddol a
hinsawdd (Cynllun Datblygu Gwledig) ers dros ugain mlynedd. Roedd yn rhan
o'r adolygiad annibynnol o Glastir Uwch a roddodd argymhellion i'r
Llywodraeth ac mae'n falch iawn o fod wedi cyflawni hynny.

Yn rhinwedd ei swydd fel Rheolwr Defnydd Tir RSPB Cymru, bu'n ymwneud
â'r diwygiadau diweddar i'r Polisi Amaethyddol Cyffredinol (PAC). Ei nod,
ynghyd â'i gydweithwyr yn y DU a phartneriaid o Birdlife yr UE oedd datblygu'r
PAC yn bolisi sy'n sbarduno ac yn cynnal defnydd cynaliadwy o dir.

Mae sgiliau a chyfrifoldebau eraill Arfon yn cynnwys -

  • Cynrychioli'r sector amgylcheddol ar Bwyllgor Monitro'r Rhaglen.
  • Aelod o grŵp cynghori Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir.
  • Dwy flynedd o fod yn arweinydd polisi Pysgodfeydd Dŵr Croyw Llywodraeth Cymru.
  • Rhedeg ei gwmni ymgynghori ecolegol ei hun yn llwyddiannus.

Yn RSPB Cymru, mae Arfon yn gyfrifol am nifer o fentrau ar raddfa tirwedd
sy'n cynnwys sicrhau bod ganddynt y rhaglenni monitro a gwerthuso priodol. 

Dr Liz Lewis-Reddy

 

Dr Elizabeth Lewis-Reddy

Mae Liz yn Uwch-ymgynghorydd Polisi ac Ymchwil yn nhîm Polisi ac Economeg RSK ADAS, ac ymunodd â'r Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol (ADAS) yn ddiweddar ar ôl gweithio am ddegawd a mwy yn y sector cadwraeth yng Nghymru. 

Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau ecosystemau drwy reoli tir mewn ffyrdd cynaliadwy. Mae angen iddi gysylltu â holl randdeiliaid y gymuned wledig er mwyn gwneud gwaith ymarferol ac mae hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid o bob un o'r tri sector er mwyn symud y gwaith o ddatblygu Taliadau am Wasanaethau Ecosystemau yn ei flaen ar draws y DU. Mae gan Liz brofiad helaeth ym maes cynllunio a gweithredu cynlluniau amaeth-amgylcheddol, a phrofiad eang hefyd o esbonio'r athroniaeth sy'n sail i wasanaethau ecosystemau, yr agweddau ymarferol ar y gwasanaethau hynny, a thaliadau cyhoeddus am nwyddau cyhoeddus.

Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, cafodd Liz ei dewis i gymryd rhan mewn dwy raglen oedd â'r nod o ysbrydoli arweinwyr ac entrepreneuriaeth yn y sector amaethyddol ac yn y sector cadwraeth:

  • Rhaglen Arweinyddiaeth Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2014
  • Rhaglen Datblygu Sgiliau yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt 2013 - 2015 

A hithau'n ffermwr cig eidion a defaid, mae ganddi ddealltwriaeth ddofn o'r pwysau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r sector amaethyddiaeth yng Nghymru ar yr adeg hon o newid mawr.