Gwerthusiad; Ymchwil a Chanllawiau
Mae rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymunedau Gwledig, Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020, yn cefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau sydd â'r nod o wella cynaliadwyedd a chryfhau gwytnwch ein hamgylchedd naturiol, y sector seiliedig ar y tir, busnesau bwyd, a hefyd ein cymunedau.
Mae'n cynnwys:
- Gwella sgiliau, hyrwyddo arloesi, a chryfhau dulliau o drosglwyddo gwybodaeth
- Creu a diogelu swyddi
- Gwella canlyniadau amaeth-amgylcheddol
- Cynnal coetiroedd a choedwigoedd
- Cynyddu bioamrywiaeth
- Cefnogi a hybu effeithlonrwydd adnoddau
- Datblygu a darparu gwasanaethau ecosystem
- Cefnogi datblygu cymunedol
- Gwella iechyd a lles anifeiliaid
- Arafu newid yn yr hinsawdd, ac addasu iddo
Pam fod angen inni fonitro a gwerthuso?
Mae'r prosesau monitro a gwerthuso yn brosesau pwysig ar gyfer asesu pa mor llwyddiannus yw'r Rhaglen Datblygu Gwledig yng Nghymru a sut mae'n cael ei gweithredu. Mae'n hanfodol sicrhau bod systemau monitro a gwerthuso trylwyr a phriodol ar waith i'n helpu i ddeall pa mor llwyddiannus yw'r canlyniadau a'r cynhyrchion, ac i helpu i asesu effeithiau.
Pwy sy'n gyfrifol am y gwaith monitro a gwerthuso?
Ymgeiswyr prosiectau a Llywodraeth Cymru.
Mae ymgeiswyr prosiectau'n gyfrifol am adrodd ar lwyddiannau eu prosiectau a'r data allweddol angenrheidiol. Y Tîm Strategaeth yn Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) sy'n gyfrifol am fonitro a gwerthuso ar lefel y rhaglen. Mae hynny'n cynnwys coladu data monitro ar lefel y rhaglen ar gyfer cwblhau'r Adroddiadau Gweithredu Blynyddol. Mae'r Tîm Strategaeth hefyd yn gyfrifol am reoli gwerthusiadau ar lefel rhaglen a chynllun, yn ogystal â rhoi cyngor ac yn ateb cwestiynau monitro a gwerthuso sy'n ymwneud â'r rhaglen. Mae hynny'n cynnwys darparu cymorth mewn perthynas â chasglu data, sut mae diffinio dangosyddion, a llunio manylebau gwerthuso.
I gysylltu â'r Tîm gwerthuso monitro ymchwil, e-bostiwch: RDPMandE@llyw.cymru
Mwyafrif yn Saesneg yn unig
Astudiaeth werthuso LEADER (Saesneg yn unig) https://ec.europa.eu/info/food-farming-fisheries/key-policies/common-agricultural-policy/cmef/rural-areas/evaluation-support-study-impact-leader-balanced-territorial-development_en
Mwyafrif yn Saesneg yn unig
Mwyafrif yn Saesneg yn unig