Prosiectau Cydweithredu yng Nghymru, y DU ac yn Drawswladol LEADER
Hoffech chi rannu gwybodaeth, profiad a syniadau? Oes gennych chi ddiddordeb mewn cydweithio?
Mae cydweithredu’n golygu llawer iawn mwy na rhwydweithio’n unig, mae’n golygu cydweithio er budd pawb. Mae’n annog ac yn cefnogi Grŵp Gweithredu Lleol i weithredu ar y cyd â grŵp LEADER arall, neu â grŵp sy’n gweithredu mewn modd tebyg, a hynny mewn rhanbarth neu wlad arall. Gall prosiectau cydweithredu greu cyfleoedd i wella’r posibiliadau ar gyfer gorchfygu rhwystrau drwy gydweithio â phobl mewn ardaloedd gwledig eraill yng Nghymru, y DU neu Ewrop.
Mae prosiectau cydweithredu trawswladol gyda gwledydd eraill bellach yn fwyfwy pwysig ar gyfer rhanddeiliaid gwledig; gan rannu arferion gorau a datblygu ar y cyd atebion newydd i faterion cyffredin.
Beth am fynd ati i gydweithredu a chydweithio er mwyn datblygu dulliau newyddo ganfod partneriaid posibl? Mae’r Uned yma i’ch helpu.
Cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion.