BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer BOSS

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r wybodaeth ar wefan BOSS, ac i’r adrannau cymorth busnes arbenigol cysylltiedig ar y wefan. Mae BOSS yn wasanaeth arbenigol ar wefan Busnes Cymru.

Mae gan bob gwasanaeth arbenigol ar wefan Busnes Cymru ei dudalen hygyrchedd ei hun. Mae'r tudalennau yn amlinellu pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth, sut i roi gwybod am broblemau, a sut i ofyn am wybodaeth mewn fformat arall. Gallwch fynd i’r tudalennau hyn drwy glicio ar y troedyn ar dudalennau gwe'r gwasanaeth dan sylw.

Defnyddio’r wefan hon

Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Busnes Cymru. Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 400% a bod y testun i gyd yn dal i ffitio ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • defnyddio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Os oes gennych chi anabledd, gallwch chi fynd i AbilityNet i gael cyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w ddefnyddio.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o'r wefan yn gwbl hygyrch:

  • nid yw rhai tudalennau a dogfennau atodedig wedi’u hysgrifennu’n glir
  • nid yw rhai elfennau penawdau yn gyson
  • nid yw teitlau rhai tudalennau’n unigryw
  • nid yw rhai labeli yn unigryw
  • nid oes testun amgen da ar gyfer rhai delweddau
  • nid yw testun rhai dolenni cyswllt yn disgrifio diben y ddolen

Gofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol

Os hoffech chi gael gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel testun plaen, Braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras, hawdd ei ddarllen neu recordiad sain, cysylltwch â ni drwy un o’r dulliau canlynol:

Bydd angen i chi ddweud y canlynol wrthym:

  • cyfeiriad gwe (URL) yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch
  • eich cyfeiriad e-bost a’ch enw
  • y fformat yr hoffech ei gael - er enghraifft, testun plaen, Braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras neu CD sain
  • pa dechnolegau cynorthwyol rydych chi’n eu defnyddio

Gallwch ofyn am PDF mewn fformat hygyrch o’r dudalen hon. Cliciwch ar ‘Gofyn am fformat hygyrch’ i gysylltu â’r sefydliad a gyhoeddodd y ddogfen.

Byddwn yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 7 diwrnod gwaith.

Gwybodaeth gyswllt ac adborth

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau sydd heb eu nodi ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n credu nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy un o’r dulliau canlynol:

Bydd angen i chi ddweud y canlynol wrthym:

  • cyfeiriad gwe (URL) y dudalen nad ydych yn credu ei bod yn bodloni gofynion hygyrchedd
  • pam yr ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd

Byddwn yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 7 diwrnod gwaith.

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am weithredu Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, mae croeso i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

 

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni

Mae Ofcom yn mynnu fod pob cwmni ffonau sefydlog a symudol yn darparu nifer o wasanaethau ar gyfer cwsmeriaid ag anableddau. Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth cyfnewid testun o'ch dewis i gysylltu â BOSS.

Rydym wedi gosod dolenni sain yn ein swyddfeydd, neu os byddwch chi’n cysylltu â ni ymlaen llaw byddwn yn gwneud pob ymdrech i drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â ni drwy un o’r dulliau canlynol:

Bydd angen i chi nodi’r canlynol:

  • pwy ydych chi
  • sut gallwn ni eich helpu chi

Byddwn yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 7 diwrnod gwaith.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae BOSS wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws Cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We Fersiwn 2.2, o ganlyniad i’r materion isod sydd ddim yn cydymffurfio.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol: Diffyg cydymffurfiad â’r rheoliadau hygyrchedd.

Mae rhai tudalennau’n defnyddio testun amgen fel enw ffeiliau delwedd. Nid yw defnyddio testun amgen fel enw ffeil yn rhoi digon o gyd-destun i ddefnyddwyr. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 1.1.1 ac 1.2.1 F30. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2024.

Nid oes enw hygyrch gan rai elfennau o ddelweddau. Heb enw hygyrch, gallai defnyddwyr darllenydd sgrin gael trafferth deall ystyr neu swyddogaeth delwedd ar dudalen we. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 1.1.1 F65. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2024.

Nid oes enw hygyrch gan rai dolenni. Os yw nifer o ddolenni’n rhannu’r un enw hygyrch, ond eu bod yn arwain at fannau gwahanol, fe all hyn ddrysu defnyddwyr, yn enwedig y rhai hynny sy’n dibynnu ar ddarllenwyr sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 2.4.9, 4.4.4 a 4.1.2 F89. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2024.

Mae rhai tudalennau’n defnyddio priodwedd ‘trwch ffont’ CSS yn lle iaith farcio semantig, fel ‘cryf’. Nid yw ‘trwch ffont’ CMS yn dehongli ac yn cyfleu cynnwys cystal ag iaith farcio semantig, fel ‘cryf’. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 1.3.1 F2. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2024.

Mae rhai tudalennau’n defnyddio aria-label neu aria-labelledby ar elfennau a rolau sy’n gwahardd enwi. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant ARIA 1.2. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2024.

Mae rhai tudalennau’n cynnwys penawdau gwag. Gall penawdau gwag ddrysu darllenwyr sgrin a’i gwneud yn anodd iddynt ddeall gosodiad a threfn y cynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 1.3.1. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2024.

Mae teitlau rhai dogfennau’n wag neu ar goll. Mae teitlau yn hanfodol ar gyfer llywio a threfniadaeth i bobl sydd ag anableddau gwybyddol neu sy’n dibynnu ar darllenwyr sgrin.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 2.4.2 F25. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2024.

Mae rhai tudalennau’n cynnwys dolenni a rheolyddion lle nad yw’r labeli gweledol yn ymddangos yn yr enw hygyrch. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.5.3. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2024.

Mae rhai tudalennau’n cynnwys delweddau ag ID dyblyg. Gall hyn effeithio ar ddarllenwyr sgrin, oherwydd y gall achosi anhawster wrth wahaniaethu rhwng gwahanol ddelweddau os ydynt yn rhannu'r un ID, gan arwain at brofiad gwael i ddefnyddwyr sy'n dibynnu ar dechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 4.1.1. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2024.

Diffyg cydymffurfiad â rheoliadau hygyrchedd

Mae’r technolegau sy’n cael eu rhestru isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol: Diffyg cydymffurfiad â rheoliadau hygyrchedd.

Nid yw rhai elfennau set maes wedi’u labelu ag elfennau allwedd. Mae’n bwysig bod y ddwy elfen yn cael eu cysylltu er mwyn hygyrchedd oherwydd bod hyn yn rhoi cyd-destun ynglŷn â’r grŵp o reolyddion ffurflen a gynhwysir o fewn y set maes. Mae hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 1.31 ac WCAG 2.2 A 3.3.2 H71. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2024.

Mae rhai tudalennau’n cynnwys lliwiau testun a chefndir nad oes ganddynt ddigon o gyferbynnedd. Mae hyn yn effeithio ar bobl sydd â nam ar eu golwg. Nid yw hyn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 AA 1.4.3. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2024.

Ar rai tudalennau, mae’r amlinelliad CSS neu’r arddull border ar yr elfen hon yn ei gwneud yn anodd neu’n amhosibl gweld amlinelliad ffocws y ddolen. Mae’r amlinelliad ffocws yn bwysig i ddefnyddwyr sy’n llywio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 AA 1.4.11 F78. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2024.

Nid oes gan rai elfennau ffrâm fewnlinol (iframe) a ffrâm briodoledd teitl. Mae gofyn i elfennau ffrâm fewnlinol ac elfennau ffrâm gael priodoleddau teitl er mwyn sicrhau bod pobl ag anableddau’n gallu deall diben cynnwys y ffrâm sydd wedi’i mewnblannu. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 4.1.2. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2024.

Nid yw rhai elfennau â role=table wedi’u cynnwys mewn, neu’n eiddo i, elfen â role=tablist. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 4.1.2. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2024.

Nid yw rhai elfennau â rôl=tablist yn cynnwys neu'n berchen ar elfen â rôl=tab, ac ni ddylent gynnwys elfennau â rolau eraill. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 4.1.2. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2024.

Trafodion ac offer rhyngweithiol

Nid oes enw hygyrch gan rai rheolyddion ffurflenni HTML. Mae enw hygyrch ar reolydd ffurflen yn hanfodol i ddefnyddwyr sy’n dibynnu ar dechnolegau cynorthwyol er mwyn iddynt lywio a rhyngweithio â chynnwys y we. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 A 4.1.2 F68. Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2024.

PDFs a dogfennau eraill

Dylai dogfennau newydd rydym eu cyhoeddi i gael mynediad at ein gwasanaethau fod yn gwbl hygyrch.

Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad yw rhai o’n dogfennau hŷn (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018) yn hygyrch. Er enghraifft, nid yw rhai ohonynt:

  • wedi’u marcio mewn ffordd sy'n galluogi defnyddwyr darllenydd sgrin i'w deall
  • wedi’u tagio'n gywir - er enghraifft, nid ydynt yn cynnwys penawdau priodol
  • wedi’u hysgrifennu mewn iaith glir

Mae rhai o'r dogfennau hyn yn ddogfennau hanesyddol, ac nid ydynt yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau. Mae'r mathau hyn o ddogfennau wedi'u heithrio o'r rheoliadau. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i'w gwneud yn hygyrch.

Os hoffech chi gael gwybodaeth sydd yn un o'r mathau hyn o ddogfennau, gofynnwch am fformat gwahanol drwy gysylltu â ni drwy un o’r dulliau canlynol:

Bydd angen i chi ddweud y canlynol wrthym:

  • cyfeiriad gwe (URL) yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch
  • y fformat yr hoffech ei gael
  • pa dechnolegau cynorthwyol rydych chi’n eu defnyddio

Byddwn yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 7 diwrnod gwaith.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Er mwyn disodli’r datganiad hygyrchedd blaenorol, cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 15 Mawrth 2024. Cafodd y datganiad ei adolygu ddiwethaf ar 15 Mawrth 2024.

Sut aethom ati i brofi’r wefan

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 13 Mawrth 2024. Cynhaliwyd y prawf gan S8080.

Ar 13 Mawrth 2024, roedd S8080 wedi defnyddio SortSite Desktop i sganio 100 a mwy o’n tudalennau i weld â oeddent yn cydymffurfio â lefel A ac AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We Fersiwn 2.2. Roedd y sgan wedi cynnwys cyfuniad o dudalennau craidd, templedi sy’n cael eu defnyddio’n aml, a thempledi cymhleth.

Profwyd llwyfan ein prif wefan, sydd ar gael yn

https://boss.busnescymru.llyw.cymru/

https://businesswales.gov.wales/boss/cy

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.