BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfarwyddyd

Cadarnhad cronfa paratoi at y dyfodol

Mae’r alwad ar gyfer y gronfa gystadleuol hon yn agored ar gyfer ceisiadau hyd at 11:59pm ddydd Iau 6 Mehefin 2024 neu hyd nes y bydd cyfanswm gwerth y ceisiadau a gyflwynir yn fwy na’r dyraniad cyllidebol.

Defnyddiwch y gwiriwr cymhwysedd hwn i helpu i gasglu’r wybodaeth angenrheidiol ymlaen llaw.

Gwiriwch y meini prawf cymhwysedd isod ar gyfer Grant Cronfa Paratoi at y Dyfodol Llywodraeth Cymru.

Gofynnir i chi gadarnhau:

  • Nad oes cais yn cael ei wneud am gyllid o unrhyw ffynhonnell arall o gyllid grant nad oes angen ei ad-dalu gan unrhyw sefydliad sector cyhoeddus gan gynnwys Llywodraeth Cymru;
  • Mae cyfeiriad gweithredu’r busnes yng Nghymru ac mae gan y busnes gyflogeion yng Nghymru;
  • Y disgwylir i fusnes yr ymgeiswyr alinio ag ethos ac egwyddorion y Contract Economaidd, a gwneud y defnydd gorau o’r Cynllun Cadw Swyddi ar gyfer yr holl weithwyr cymwys.
  • Wrth gyflwyno cais am Grant gan Gronfa Paratoi at y Dyfodol Llywodraeth Cymru, rwy’n fodlon i fanylion fy nghais gael eu rhannu gyda phartneriaid cyflawni’r cynllun (Awdurdodau Lleol a Busnes Cymru) yn unol â GDPR.
  • Os byddaf yn llwyddiannus, rwy’n cytuno i enw fy musnes gael ei gyhoeddi ar restr derbynwyr cymorth ar wefan Llywodraeth Cymru.

Bydd angen i chi fod â’r wybodaeth ganlynol cyn agor y ffurflen ar-lein:

  • O leiaf 2 ddyfynbris ar gyfer pob eitem cyfalaf dros £500. Gall y dyfyniadau hyn fod yn electronig ond lle bo'n bosibl mae angen eu cyflwyno ar bapur â phennawd llythyr ffurfiol a chynnwys rhif cofrestru'r cwmni y cyflenwr fel y gellir gwirio’r cyflenwr.
  • Tystiolaeth o'ch cyfran o arian cyfatebol drwy gyfriflen banc a/neu waith papur cytundeb benthyciad.
  • Copi o'ch anfoneb ardrethi annomestig gan eich awdurdod lleol yn enw busnes y ceisydd, sy'n dangos bod y busnes yn gweithredu o eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £51,000 o 1 Ebrill 2024.
  • Datganiadau banc ar gyfer y 3 mis blaenorol i wirio bod y busnes yn mynd ati i fasnachu ac fel tystiolaeth o lif arian digonol.
  • Rhif cofrestru TAW (os yw’n berthnasol)
  • Rhif Cofrestru’r Cwmni neu Rif y Comisiwn Elusennau (os yw’n berthnasol):
  • Y Sector y mae’r busnes yn gweithio ynddo
  • Nifer y Cyflogeion
  • Trosiant Blynyddol

Sylwer nad yw’r gweithgareddau canlynol yn gymwys ar gyfer cyllid o’r cynllun hwn:

  • Gamblo a betio
  • Busnesau ag agenda grefyddol neu wleidyddol.
  • Lleoliadau neu wasanaethau adloniant rhywiol (clybiau dawnsio glin, stripwyr ac ati). Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi dim goddef tuag at Leoliadau Adloniant Rhywiol er mwyn lleihau casineb at fenywod ac aflonyddu a cham-drin seiliedig ar rywedd.
  • Gwystlwyr
  • Cyfnewidfeydd arian cyfred, gan gynnwys arian cyfred rhithwyr fel Bitcoin a Chryptoarian neu fusnesau asedau crypto, Busnesau Gwasanaethau Arian (MSB) – e.e. cyfnewidfa dramor a chredyd defnyddwyr neu fenthyca arian
  • Arfogaethau ac amddiffyn – gan gynnwys gweithgynhyrchu a / neu werthu gynnau, meysydd tanio, clybiau saethu
  • Banciau/Cymdeithasau Adeiladu – busnesau buddsoddiadau ariannol, benthyciadau, cyfnewidfa dramor neu fancio rheoleiddiedig neu anrheoleiddiedig
  • Gweithgareddau yswiriant/ailyswiriant
  • Cwmnïau metel sgrap didrwydded/rheoli gwastraff anghofrestredig
  • Cwmnïau Segur neu Goeg – cwmnïau anweithredol a ddefnyddir fel cyfrwng ar gyfer trafodion ariannol neu a gedwir yn segur er mwyn eu defnyddio yn y dyfodol.
  • Gwasanaethau Clampio Olwynion
  • Hela anifeiliaid byw er difyrrwch
  • Gweithgynhyrchu tybaco, neu gynhyrchion sy’n cynnwys tybaco

Mae busnesau sydd â’u pencadlys mewn gwledydd sy’n hafanau treth 100% yn anghymwys i gael cyllid gan y Gronfa Cadernid Economaidd. At ddibenion y cynllun hwn, y gwledydd sy’n hafanau treth 100% yw:

  • Ynysoedd Prydeinig y Wyryf
  • Bermuda
  • Ynysoedd Cayman
  • Bahamas
  • Ynys Manaw
  • Ynysoedd Turks a Caicos
  • Anguilla

Sylwer:

  • Mae derbyn y Cais am gyllid yn ddewisol ac nid oes unrhyw broses apelio.
  • Rhaid i’r Cais gael ei lenwi gan Lofnodwr Awdurdodedig y busnes. Gall Llofnodwr Awdurdodedig fod yn un o’r canlynol:
    • Cyfarwyddwr: cyfarwyddwr cofrestredig cwmni
    • Ymddiriedolwr: ymddiriedolwr cofrestredig elusen;
    • Partner: partner/aelod dynodedig partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu bartner cyfreithiol o fewn busnes
    • Perchennog: perchennog busnes

Ydych chi wedi darllen a deall y canllawiau llawn ac yn cytuno i’r amodau uchod. Os felly, fe allwch nawr gwblhau Ffurflen Gais y Gronfa Paratoi at y Dyfodol.

Cytuno a pharhau