Bydd busnesau'n cael 2 flynedd ychwanegol i gymhwyso marc diogelwch cynnyrch newydd.

Mae marc Asesiad Cydymffurfiaeth y DU (UKCA) wedi cael ei gyflwyno fel rhan o fframwaith rheoleiddio cadarn y DU ei hun. Mae'n dangos bod cynhyrchion yn cydymffurfio â rheoliadau diogelwch cynnyrch sydd wedi cael eu cynllunio i ddiogelu defnyddwyr.

Fodd bynnag, o ystyried yr amodau economaidd anodd, nid yw Llywodraeth y DU eisiau rhoi baich ar fusnesau gyda'r gofyniad i fodloni'r dyddiad terfyn gwreiddiol (31 Rhagfyr 2022).

Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i gydnabod y marc CE am 2 flynedd, gan felly ganiatáu tan 31 Rhagfyr 2024 i fusnesau baratoi ar gyfer marc UKCA. Gall busnesau hefyd ddefnyddio marc UKCA, gan roi hyblygrwydd iddynt ddewis pa farc I'w gymhwyso.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Businesses to be given UK product marking flexibility - GOV.UK (www.gov.uk)
 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen