BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gofyn i bobl ddiogelu Cymru wrth i fesurau lefel rhybudd 2 aros yn eu lle

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi gofyn i bobl barhau i gymryd camau i ddiogelu ei gilydd a diogelu Cymru rhag y don o achosion Omicron.

Mae wedi cadarnhau y bydd mesurau lefel rhybudd 2 yn aros yn eu lle yng Nghymru yn dilyn canlyniad yr adolygiad diweddaraf o’r rheoliadau.

Mae achosion o’r coronafeirws wedi codi'n sydyn i'w lefelau uchaf erioed wrth i'r don Omicron gynyddu ledled Cymru yn ystod y cyfnod ar ôl y Nadolig. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwy na 2,200 o achosion fesul 100,000 o bobl yng Nghymru.

Ar lefel rhybudd 2 rhaid i bobl wneud y canlynol:

  • Gwisgo gorchudd wyneb (oni bai bod ganddynt esgus rhesymol i beidio â gwisgo gorchudd wyneb) ym mhob lle cyhoeddus dan do, gan gynnwys mewn tafarn, caffi neu fwyty pan na fyddwch yn eistedd.
  • Peidio â chwrdd â mwy na 5 o bobl eraill mewn caffi, bwyty, tafarn neu le cyhoeddus arall (heblaw am eich aelwyd os yw eich aelwyd yn fwy na hyn). Mae hyn yn berthnasol mewn ardaloedd dan do ac awyr agored yn y safleoedd hyn.
  • Gweithio gartref os ydynt yn medru.
  • Hunanynysu am 7 diwrnod os ydynt yn cael canlyniad prawf positif am COVID-19. Dylai pobl gymryd prawf llif unffordd ar ddiwrnod 6 a 7. Os yw'r naill brawf neu'r llall yn bositif, dylent barhau i hunanynysu nes iddynt gael 2 brawf llif unffordd negatif, neu ar ôl diwrnod 10, pa un bynnag sydd gynharaf.
  • Peidio â chymryd rhan mewn digwyddiad wedi’i drefnu o dan do sy’n cynnwys mwy na 30 o bobl neu ddigwyddiad wedi’i drefnu yn yr awyr agored sy’n cynnwys mwy na 50 o bobl. Rhaid i bob digwyddiad wedi’i drefnu gael ei drefnu gan gorff cyfrifol a rhaid llunio asesiad risg.

Mae pobl hefyd yn cael eu hannog i ddilyn canllawiau cryfach i'w helpu i gadw'n ddiogel gartref. Mae hyn yn cynnwys cyfyngu ar nifer y bobl y maent yn cwrdd â nhw nad ydynt yn byw gyda nhw, profi cyn cymdeithasu drwy gymryd prawf llif unffordd cyn mynd allan, cwrdd â phobl yn yr awyr agored lle bynnag y bo modd a sicrhau bod mannau dan do wedi'u hawyru'n dda.

Am ragor o wybodaeth ewch i LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.