Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch. Byddwn yn ymdrin â'ch holl ddata personol yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (EU 2016/679).
1. Pam rydym yn casglu ac yn prosesu’ch data personol
- I ddarparu'r cymorth Arloesi a roddir gan Lywodraeth Cymru, er enghraifft, drwy'r gyfres o raglenni SMART sy'n cael eu cyllido drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF);
- I gynllunio, gwneud gwaith ymchwil a dadansoddi a monitro'r cymorth a roddir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer arloesi, ac efallai i baratoi cyhoeddiadau ystadegol;
- I gynnal archwiliadau ar y prosiect;
- Fel rhan o weithgarwch hyrwyddo megis busnes y llywodraeth, astudiaethau achos, datganiadau i’r wasg, ymgyrchoedd marchnata, y cyfryngau cyhoeddus; mae'n bosibl y bydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu â’r cyhoedd.
2. Pwy fydd yn cael gweld eich data personol?
Mae'n bosibl y bydd y data hyn yn cael eu casglu gan:
- Lywodraeth Cymru at y dibenion a ddisgrifir uchod;
- Contractwyr a benodir gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth sydd, er enghraifft, yn gysylltiedig ag arloesi, dylunio, neu weithgynhyrchu. Mae’n ofynnol i gontractwyr sy’n ymdrin â’ch gwybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru fod ag achrediad Cyber Essential neu gydymffurfio ag ISO 27001. Mae’n ofynnol o dan y contract iddynt roi gweithdrefnau cryf ar waith i ddiogelu gwybodaeth;
- Sefydliadau ymchwil cymdeithasol cymeradwy, i gynnal gwaith ymchwil a dadansoddi neu i fonitro'r rhaglenni cymorth arloesi o ran cyfle cyfartal;
- Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) – fel noddwyr y cynllun, mae angen rhestr lawn ar WEFO o holl fanylion buddiolwyr er mwyn cyflawni’r gofynion o ran adrodd;
- Y Comisiwn Ewropeaidd a’r Tîm Archwilio Cronfeydd Ewropeaidd a fydd yn cymryd samplau o’n data i sicrhau ein bod yn dilyn y prosesau cywir.
3. Cyfreithlondeb
- Mae’r dibenion cymorth i fusnesau ac archwilio yn cael eu cynnal fel rhan o dasg gyhoeddus Llywodraeth Cymru i fodloni’i phrif nod economaidd i greu swyddi, twf a chyfoeth yng Nghymru.
- Dim ond â’ch caniatâd chi y gwneir unrhyw waith ymchwil / gwerthuso. Cysylltir â sampl yn unig o unigolion a / neu fentrau at y diben hwn. Os cysylltir â chi i gymryd rhan mewn unrhyw waith ymchwil / gwerthuso am eich profiad ar y prosiect, bydd diben y cyfweliad neu’r arolwg yn cael ei esbonio ichi a chewch yr opsiwn i gytuno i gymryd rhan neu i wrthod. Dim ond ar gyfer ymchwil gymeradwy y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio a chânt eu dileu cyn gynted ag y bydd yr ymchwil hon wedi’i chwblhau.
- Dim ond ar ôl cael eich caniatâd chi y gwneir unrhyw weithgarwch hyrwyddo. Mae gennych yr hawl i wrthod cymryd rhan mewn gweithgarwch hyrwyddo.
4. Am faint byddwn ni’n cadw’ch manylion?
- Bydd eich manylion yn cael eu cadw ar ein systemau yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru am hyd at 10 mlynedd fel rhan o'n hadolygiadau rheolaidd o hyfforddiant ac ansawdd.
- Cedwir eich manylion ar systemau’n contractwyr nes i’r contractau ddod i ben yn 2021/22. Bydd y cofnodion yn cael eu rhoiyn ôl i Lywodraeth Cymru pan ddaw cyfnod y contract i ben a byddant yn cael eu storio gennym. Caiff y cofnodion eu storio am 10 mlynedd ar ôl i’r prosiect ddod i ben oherwydd y gofynion sy'n gysylltiedig â chymorth de minimis.
5. Eich hawliau O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i:
- weld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch;
- mynnu ein bod yn cywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hynny;
- (o dan rai amgylchiadau) gwrthwynebu prosesu'ch data neu i ofyn inni gyfyngu ar y gwaith prosesu hwnnw;
- (o dan rai amgylchiadau) gofyn inni 'ddileu' eich data;
- cofrestru cwyn yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk
Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Cyfeiriad e-bost:Data.ProtectionOfficer@llyw.Cymru
6. Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'ch Gwybodaeth chi
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd ofyn i gael gweld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gallai aelod arall o'r cyhoedd ofyn am gael gweld yr wybodaeth a roddwch inni, a hynny fel rhan o gais rhyddid gwybodaeth. Cyn ymateb i gais am wybodaeth bersonol amdanoch, byddem yn ymgynghori â chi i ofyn am eich caniatâd.
7. Newidiadau i'r polisi hwn
Gall Llywodraeth Cymru newid y polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg.
Pan fydd y polisi hwn yn cael ei newid, byddwn yn cysylltu â chi drwy’r cyfeiriad e-bost sydd gennym ar gofnod yn eich cyfrif er mwyn ichi allu gweld y fersiwn newydd.