BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwella sgiliau yn y gymuned i annog ailddefnyddio ac ailgylchu

Recycling logo

Mae menter newydd sbon wedi’i lansio yng Ngwynedd ac Ynys Môn, sydd am helpu cymunedau i atgyweirio ac ailddefnyddio offer ac eitemau cyffredin er mwyn lleihau gwastraff.

Daw Cylchol dan faner Menter Môn, a chaiff ei ariannu trwy Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru. Nod y prosiect yw datblygu economi gylchol hyfyw trwy hyrwyddo atgyweirio a thrwsio deunyddiau a nwyddau, gan greu diwylliant o gynaliadwyedd a dyfeisgarwch o fewn cymunedau.

Rhan allweddol o’r prosiect yw bywiogi 14 gofod creu Ffiws sydd wedi’u lleoli ar draws gogledd-orllewin Cymru. Gyda golwg newydd ar uwchgylchu a thrwsio, mae tîm Cylchol yn awyddus i annog cymaint o bobl â phosibl i alw heibio ar gyfer taith o amgylch Ffiws, i roi cynnig ar ddefnyddio ychydig o’r offer sydd ar gael yno ac i ddysgu sgiliau newydd trwy gymryd rhan mewn gweithdai gydag arbenigwyr atgyweirio.

Mae Elen Parry yn rheolwr prosiect yn Menter Môn. Mae’n egluro: “Mae Ffiws fel cysyniad wedi’i hen sefydlu mewn trefi ar draws Gwynedd ac Ynys Môn – felly, rydym yn falch iawn o allu rhoi bywyd newydd i’r gofodau hyn, a’u cynnwys nhw fel rhan o fenter Cylchol.

“Fel pob prosiect Menter Môn, ein nod yw gwneud yn fawr o’r adnoddau sydd ar gael yn lleol, er budd ein cymunedau. Mae hyn yn cynnwys y sgiliau sydd gan bobl a’r gwrthrychau neu’r offer sydd gan pawb o gwmpas y lle nad ydyn ni’n eu defnyddio mwyach. Trwy hynny hefyd, rydym am ledaenu’r neges ehangach o geisio annog pobl i feddwl dwywaith cyn cael gwared ar bethau. Yn ogystal ag arbed arian a lleihau gwastraff, rydym yn awyddus i ddatblygu sgiliau a allai hyd yn oed arwain at gyfleoedd busnes posibl yn yr hir dymor.

Mae cam nesaf y prosiect yn cynnwys ymgysylltu ag unigolion sy’n grefftwyr a busnesau atgyweirio lleol sydd â diddordeb ymuno â Cylchol. Trwy adeiladu rhwydwaith o arbenigwyr, nod y tîm yw creu rhaglen o weithdai rheolaidd a sesiynau hyfforddi ymarferol, gan rymuso’r cyfranogwyr i gyflawni eu prosiectau atgyweirio eu hunain.

Gall unrhyw un sydd â dioddordeb mewn cymryd rhan yn Cylchol neu sydd am fwy o wybodaeth gysylltu â Menter Môn ar 01248 858845 neu Cylchol@mentermon.com

Mi fydd Cymru'n cynnal yr Hotspot Economi Gylchol Ewropeaidd 2024: Hotspot Economi Gylchol Cymru 2024 ar 7 i 9 Hydref 2024 yng Nghaerdydd.

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r mannau o'u cwmpas. Cofrestrwch heddiw ar Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.