Location:
Pembrokeshire
Funding amount:
££28,758.38

Disgrifiad o'r Prosiect:
 

Nod y prosiect yw datblygu platfform cwmwl ar-lein i alluogi cymunedau Sir Benfro i godi arian yn rhwydd er mwyn cynnal a chadw asedau a chyfleusterau lleol, megis meysydd chwarae, offer chwarae, neuaddau pentref, hysbysfyrddau ac ati.  Y cysyniad ar gyfer y gronfa yw y bydd unigolion yn talu £1 yr wythnos, yna bydd 50c o’r £1 yn cael ei defnyddio tuag at asedau a chyfleusterau cymunedau. Bydd y 50c sy’n weddill yn cael ei defnyddio i dalu am wobrwyon rheolaidd ac i dalu costau rhedeg y gronfa, ond bydd cronfa ganolog hefyd yn cael ei datblygu ar gyfer prosiectau penodol nad ydynt yn ymwneud â lleoliad neilltuol. Oherwydd yr angen i ddiogelu gwasanaethau lleol a darparu cefnogaeth i gynnal a chadw asedau lleol, mae cyfle amlwg nawr i ofyn i bobl leol gynnig cefnogaeth er mwyn gallu cynnal a datblygu asedau a chyfleusterau lleol.
 

Canlyniadau'r Prosiect:
 

  • Annog mwy o bobl i gyfranogia chefnogi gwasanaethau ac asedau lleol a galluogimwy o ryngweithio a gwydnwch cymunedol.
  • Darparu adnodd ariannol cylchol blynyddol ar gyfergrwpiau cymunedol. Cyflawnwyd hyn trwy i aelodauo'r gymuned ymuno â chronfa Asedion lle mae 50% o'u haelodaeth yn cael ei ddyrannu i adeiladu gallu'rgymuned a phrynu asedau.
  • Creu llwyfanrhyngweithiol ar-lein i gefnogi trysoryddiongwirfoddol o fewn y grwpiau cymunedol.
  • Datblyguplatfform digidol aelod newydd y gellir ei gyrchutrwy'r wefan, trwy gyfrifon a ddiogelir gan gyfrinair.
  • Erbyn Hydref 2020 roedd dros £1000 mewn gwobrauwedi eu dyfarnu a Chanolfan Hermon wedi derbyntaliad o £1092 i'w roi tuag at eu gwaith cymunedol.

Gwersi a Ddysgwyd:
 

Cyn-Covid trefnodd a chynhaliodd y cynllun Ddigwyddiadau Hyrwyddwyr, a fyddai'n gwahodd pobl o gymunedau gwledigamrywiol i ddod i ddarganfod sut y gallai'r cynllunhelpu eu grwpiau cymunedol. Yn ystod y cyfnodaucloi cenedlaethol, roedd trefnu’r digwyddiadau hynyn heriol ond gwnaethom ddefnyddio’r opsiynau o gyfarfodydd Timau a Zoom i barhau i ymgysylltu â’ncymunedau.

Further project information:

Name:
Jennifer Thomas
Email project contact