Lleoliad:
Abertawe
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£30000.00

Ym mis Mawrth 2020 derbyniodd prosiect Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned Big Meadow grant o £30,000 gan Gronfa LEADER y PDG. Wrth i'r prosiect ddod i ben, rydym yn tynnu sylw at yr effaith y mae'r prosiect wedi'i chael ar y gymuned wledig.

Mae'r prosiect, sy'n gweithredu yn Llangynydd, ardal wledig ym mhenrhyn Gŵyr a chanddi fynediad cyfyngedig i siopau neu ddewisiadau ar gyfer bwyd lleol heb ei becynnu, wedi creu cynllun cynhyrchu bwyd cynaliadwy a bywiog ar gyfer ei aelodau, gyda chyfleoedd gwirfoddoli rheolaidd a chyfleoedd gwych i gynnwys y gymuned, a oedd wedi helpu'r prosiect i gael cefnogaeth y PDG.
Pan ymwelon ni â'r safle ar ddiwrnod braf o hydref, cawsom ein tywys o gwmpas y lle gan Abbi, un o gyfarwyddwyr Big Meadow a'i chi a achubwyd, Morris. Roedd Laura, Cydlynydd Gwirfoddoli'r cynllun, yn brysur yn cynaeafu'r llysiau tymhorol sy'n dal i dyfu yn y cae.

Mae gan y safle 2 erw, a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel tir pori i wartheg sy'n pori, nifer o welyau plannu mawr a oedd yn dal yn llawn o gynnyrch iach, yn amrywio o gorfetys yr enfys i fefus a gellyg gwyntyllaidd. Mae'r prosiect yn defnyddio cylchdro cnydau, yn tyfu tail gwyrdd a chompost 'cartref' i gynnal adeiladwaith a ffrwythlondeb y tir. Mae ffermwyr cyfagos sy'n gefnogol o'r prosiect wedi rhoi llawer o gyngor ac arweiniad. Mae'r prosiect wedi gosod 3 polydwnnel mawr gyda chymorth un o'i wirfoddolwyr, ac o ganlyniad llwyddwyd i ehangu'r tymor tyfu. Hyd yn oed ym mis Tachwedd, roedd cnwd tomatos da i'w gasglu ac amrywiaeth eang o gnydau salad i'w torri hefyd.

Fodd bynnag, nid yw'r prosiect anhygoel hwn yn rhoi ffocws ar gynhyrchu bwyd cynaliadwy a chynnig cyfleoedd gwirfoddoli'n unig.

Mae elfen ychwanegol yn perthyn iddo, sef rhaglen breswyl "Surf N Turf". Mae Big Meadow wedi gweithio'n agos gyda'r elusen iechyd meddwl, Platform4YP, i ddarparu profiadau preswyl a dydd i bobl ifanc. Mae'r rhaglen hon yn ceisio dod â'r rheini sy'n profi heriau gyda'u hiechyd meddwl i leoliadau gwledig, er mwyn iddynt fod yn rhan o'r broses tyfu cynnyrch a'i drawsnewid yn brydau blasus. Mae gweithgareddau'n cynnwys gweithio ar y tir ac archwilio opsiynau ar gyfer bwydydd sydd wedi'u tyfu, cerdded bryniau, gweithgareddau cyfannol sy'n canolbwyntio ar fwydydd gwyllt a chwilota, a chrefftau traddodiadol. Mae'r rheini sy'n cymryd rhan yn aml yn profi amgylchedd gwledig, llonydd am y tro cyntaf ac fe'u hanogir i gymryd amser i ganolbwyntio ar yr hyn sydd o'u cwmpas a 'byw yn y foment'. Mae adborth y bobl ifanc wedi bod yn galonogol ac yn gadarnhaol, gyda dau berson ifanc yn dweud bod y cwrs wedi gwella'u problemau a'u perthnasoedd â bwyd.

image of a vegetable box grown at big meadow

Gwnaed pob ymdrech i gynnwys cynifer o bobl leol â phosib yn y prosiect. Cynhelir ymweliadau ysgol yn aml, gyda'r ymweliadau mwyaf diweddar gan Ysgol Gynradd Llanrhidian yn canolbwyntio ar gynaeafu pwmpenni. Ar 30 Medi, cynhaliodd Big Meadow ei ddigwyddiad cynhaeaf blynyddol, yn rhannol i ddathlu diwedd eu hail dymor tyfu. Daeth llawer o bobl i'r digwyddiad er gwaethaf y glaw trwm, a gwnaethon nhw hyd yn oed lwyddo i gynaeafu'r gwrdiau yn ystod y cawodydd.
 
Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd ran mewn prosiect llwyddiannus iawn. Mae'r holl bobl a oedd yn rhan o Big Meadow wedi datblygu menter gynaliadwy a gwerth chweil. Dymunwn y gorau i chi yn y dyfodol.

Ydych chi'n awyddus i wybod mwy?  Cymerwch gip ar Big Meadow ar Facebook!

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Helen Grey
Rhif Ffôn:
01792 636992
Email project contact