Lleoliad:
Gwynedd
Swm cyllido:
£58289.60

Cynllun peilot fydd yn dreialu ceir trydan cymunedol yng Ngwynedd

Mae blwyddyn gyntaf y prosiect wedi dod i ben, ac mae’n amser i’r ceir symud i’w lleoliadau newydd yn Penygroes a Llanaelhaearn am flwyddyn arall!

Eisiau defnyddio un? Maen nhw ar gael i unrhyw un eu llogi fesul awr neu ddiwrnod.

Gydag amser i helpu’r rhai yn eich cymuned nad ydyn nhw’n gallu gyrru? Byddwch yn yrrwr cymunedol gwirfoddol.

Y prosiect

Mae prosiect rhannu ceir trydan Cymunedol Gwynedd yn brosiect dwy flynedd gyda dau brif nod.

I dreialu model rhannu ceir cymunedol mewn cymunedau gwledig a gweld p’un a yw’n helpu pobl sydd wedi’u hynysu drwy ddiffyg trafnidiaeth gyhoeddus ar hyn o bryd i gael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau lleol. Gall y ceir wasanaethu’r rhai nad oes ganddynt gar eu hunain a/neu gartrefi a hoffai ddefnyddio ail gar yn achlyrusol. Drwy dîm o yrwyr gwirfoddol gall y ceir hefyd gynorthwyo’r rhai nad ydynt yn gallu gyrru, er enghraifft, yn ogystal ag achlysuron cymdeithasol, gan eu cadw mewn cysylltiad â’u cymunedau lleol.

I godi ymwybyddiaeth o geir trydan a hyrwyddo opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy. Mae ceir trydan yn llawer mwy effeithlon na cheir sy’n defnyddio petrol neu ddiesel, gallant gael eu pweru gan ynni adnewyddadwy carbon isel, mae eu hallyriadau’n ddi-bibell ac maen nhw’n rhatach i’w rhedeg. Drwy roi cyfle hawdd i bobl roi cynnig ar gar trydan eu hunain, nod y prosiect yw profi i drigolion lleol bod pobl yn gallu defnyddio car trydan yn eu bywydau o ddydd i ddydd a’i fod yn ddewis amgen ymarferol i gar diesel neu betrol. Mae’r cynnydd mewn ceir trydan ar y ffordd ym Mhrydain wedi bod yn enfawr dros y 6 mlynedd diwethaf (3,500 o geir trydan yn 2013, i 227,000 o geir trydan diwedd Awst 2019)* ac mae’n bwysig bod trigolion Gwynedd yn ystyried manteision ceir trydan, iddyn nhw eu hunain ac i’r amgylchedd.

Y ceir

Nissan LEAF 40kWh yw “Carwen” a “Carwyn”. Maen nhw’n geir 5 drws, 5 car â digon o le yng nghist y car. Mae ganddynt ystod gyfartalog o 110-150 milltir o bob cyfnod gwefru. Bydd gyrrwyr sy’n aros yn ysgafn ar y sbardun ac yn cadw’r mesurydd pŵer yn y modd eco yn cael pen uchaf y sbectrwm ystod hwnnw – neu fwy!

Heb orfod aros i wefru, gallech yrru o Benygroes i Fachynlleth ac yn ôl (106 milltir) yn braf, neu yrru o Lanaelhaearn i Fanceinion (118 milltir) – er efallai y byddwch am stopio am seibiant yn ystod y daith 2.5 awr honno! Ac wrth gwrs, maen nhw’n gallu mynd â chi i’r archfarchnad neu’r feddygfa leol hefyd.

Y cymunedau

Yn ystod blwyddyn gyntaf y prosiect, bydd y car sydd wedi’i enwi’n “Carwen” yn cael ei leoli ym Mhenygroes a’i reoli gan Siop Griffiths, a “Carwyn” yn Llanaelhaearn, sy’n cael ei reoli gan Antur Aelhaearn.

Mae Siop Griffiths Cyf yn fenter gymdeithasol sydd yn gweithredu ym Mhenygroes a’r ardal gyfagos. I gael rhagor o wybodaeth amdanyn nhw a “Carwen” ewch i dudalen Facebook Yr Orsaf Cymunedol:  https://www.facebook.com/yrorsafcymunedol/

I gofrestru fel gyrrwr gwirfoddol, cysylltwch hefo Greta ar greta@yrorsaf.cymru

 

Mae Antur Aelhaearn yn grwp cymunedol sy’n gweithredu yn ardal Llanaelhaearn. I gael rhagor o wybodaeth amdanyn nhw neu “Carwyn” ewch ar eu wefannau cymdeithasol: Facebook – https://www.facebook.com/Anturaelhaearn/?ref=page_internal neu Twitter – https://twitter.com/AnturAelhaearn

I gofrestru fel gyrrwr gwirfoddol, cysylltwch hefo Llyr ar moelfrefawr@gmail.com

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Carwyn ap Myrddin
Rhif Ffôn:
01766 515 946
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.arloesigwyneddwledig.cymru/prosiectau/ceir-cymunedol-trydanol/