Mae cymorth iechyd y genfaint a gynigir gan Menter Moch Cymru yn helpu busnes ffermio moch o Orllewin Morgannwg i gyflawni ei nodau iechyd a lles moch.

Mae Suzy Williams yn cyfaddef bod ganddi "obsesiwn" am iechyd a lles y genfaint o foch y mae hi'n ffermio gyda'i gŵr, Martyn, a'i meibion, Logan a Ben, gan fabwysiadu ymagwedd 'safon aur' at y ddau.