Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£74086.00

1.   Cyflwyniad

Yn dilyn adroddiad (2014) i sefyllfa’r Gymraeg yn y sector Awyr Agored yn ne Powys, roedd y Fenter Iaith wedi bod yn chwilio ffynhonnell addas ar gyfer prosiect yn y maes. Roedd cais ar gyfer arian grant y Gymraeg gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn aflwyddiannus, felly yn 2015 fe ddaeth y Fenter at Arwain i archwilio posibiliadau. Roedd ar y pryd grŵp o bobl yn arwain y prosiect, yn cynnwys cynrichiolwyr y Fenter, y Parc Cenedlaethol a busnesau Awyr Agored. Trefnwyd taith drwy Arwain i ymweld â phrosiect tebyg yng Nghonwy, lle roedd y cynllun RDP a Pharc Cenedlaethol Eryri wedi cyllido prosiect dros ddegwad i annog mwy o siaradwyr Cymraeg i weithio yn y sector Awyr Agored gyda chanlyniadau positif dros ben. 

2.    Her

Mae yna lawer o weithgaredd awyr agored yn ein hardal leol, ond prin iawn yw’r weithgaredd sydd wedi’i gynnig yn y Gymraeg. Yn aml, mewnfudwyr i’r ardal sydd yn gweld y cyfleoedd i weithio a chynnal busnesau yn y sector. Yr her yw i annog mwy o bobl ifanc leol (ac yn enwedig Cymry Cymraeg) i ystyried gyrfa yn y sector, er mwyn iddynt allu aros yn yr ardal a defnyddio’u sgiliau iaith. 


3.    Datrysiad

 pobl a beiciau

Y datrysiad i ni oedd i sicrhau bod cyfleoedd i bobl ifanc oedd yn medru’r iaith fwynhau gweithgareddau awyr agored trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddant felly yn gweld bod modd defnyddio’u sgiliau iaith mewn maes gwahanol (yr awyr agored) a bod yna gyfleoedd gwaith yn y sector. 
Ar yr un pryd, roedden ni’n gweld bod cyfle i weithio gyda busnesau awyr agored i’w hannog i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd ac i werthfawrogi a chwilio sgiliau iaith wrth gyflogi staff.
Yn y pen draw, yn ddelfrydol, byddai modd felly ‘cysylltu’ pobl ifanc yn chwilio swyddi a busnesau oedd am recriwtio siaradwyr Cymraeg.

4.    Budd-dal

Byddai’r sector gweithgareddau Awyr Agored yn elwa o allu geisio am fusnes ysgolion ac unigolion oedd am gael mynediad at weithgareddau yn y Gymraeg, yn enwedig yn y cymoedd, sydd ar hyn o bryd yn gorfod teithio drwy’r Bannau er mwyn cyrraedd cyrchfannau eraill yn Nghymru. 

Byddai’r gymuned leol yn elwa o gyfleoedd gwaith i bobl ifanc lleol, yn cadw siaradwyr Cymraeg ifanc lleol yn eu cymunedau yn lle eu bod nhw’n gorfod symud i ffwrdd i chwilio gwaith.

Byddai cyfleoedd ychwanegol i blant a chymunedau lleol defnyddio’u Cymraeg. 

5.   Canlyniad

 pobl a beiciau

Yn y diwedd, doedd hi ddim yn bosib cynnal prosiect o’r un sgôp â phrosiect Eryri, oherwydd natur ieithyddol yr ardal ac oherwydd diffyg ffynhonellau cyllid cyfatebol. 

Cyflogwyd swyddog gyda phrofiad helaeth yn y maes, wedi bod yn swyddog Ieuenctid am flynyddoedd mawr ac wedi cynnal nifer o weithgareddau awyr agored, gyda diddordeb arbennig mewn beicio mynydd. Penderfynwyd canolbwyntio ar feysydd ei arbenigedd. Gweithiodd Huw, ein swyddog, yn ddwys iawn mewn ysgolion uwchradd ymylol i’r Parc Cenedlaethol (Aberhonddu, Crughywel, Maesydderwen, Gwernyfed a Llanfair ym Muallt.) Cynhaliodd nifer o gynlluniau peilot i annog pobl ifanc i fwynhau’r awyr agored, yn cynnwys teithiau, gweithdai a sesiynau sgiliau.  Roedd adborth gan ysgolion, rhieni a phobl ifanc yn bositif iawn. Roedd gan Huw ffordd arbennig o blethu’r iaith Gymraeg i mewn i sesiynau’n naturiol, gan annog disgyblion iaith gyntaf ac ail iaith i’w defnyddio. 

Fe wnaeth Huw geisio ymgysylltu â busnesau yn ystod ei gyfnod gwaith, ond nid oedd yna lawer o gyfleoedd i gyflawni amcanion y prosiect – roedd nifer o’r busnesau oedd wedi ymateb i’r arolwg yn 2014 wedi newid staff ac ati ac felly ddim a’r un capasiti i gynnig gweithgareddau yn y Gymraeg. Yr hyn a amlygwyd yw mor fregus mae’r cynnig iaith Gymraeg yn y sector yn lleol – mae colli un aelod o staff yn ddigon i ddod a gweithgaredd i ben.

Mae hyn yn risg wrth i’n prosiect ddod i ben – mae Huw wedi sbarduno llawer iawn o weithgaredd yn y Gymraeg yn yr awyr agored yn lleol. Wrth i’r prosiect ddod i ben yn gynnar (swyddog wedi cael swydd arall wrth i’r prosiect ddod at y diwedd), mae yna ofid y bydd yn rhy anodd i fusnesau ac ysgolion parhau i gynnal y fath weithgaredd heb gefnogaeth y swyddog. Byddai prosiect hirrach wedi’n galluogi i ffurfioli gweithgareddau awyr agored fel rhan canolog o raglen ysgolion a chael clybiau i barhau gyda gwirfoddolwyr.

 

 

Saesneg yn unig

 

Saesneg yn unig

 

Saesneg yn unig

 

Saesneg yn unig

 

Saesneg yn unig

 

Saesneg yn unig

 

Saesneg yn unig

 

Saesneg yn unig

 

Saesneg yn unig

 

Saesneg yn unig

 

Saesneg yn unig

 

Saesneg yn unig

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Bethan Price
Rhif Ffôn:
07776 296267
Email project contact