Ffermio a chadwraeth yn gweithio mewn cytgord
Mae ffermwyr a thirddeiliaid yng Nghymru wedi ymrwymo i helpu i gynnal ein hadnoddau naturiol, ac mae miloedd yn cymryd rhan yng nghynllun rheoli tir cynaliadwy Llywodraeth Cymru, Glastir.
Un o’r ffermwyr a thirfeddianwyr niferus sy’n manteisio ar y cynllun yw’r ffermwr defaid mynydd ac ucheldir Garry Williams o Flaencennen yng Ngwynfe, Sir Gaerfyrddin. Mae gan fferm Garry 295 erw, gan gynnwys 25 erw o goetir.
Ers ymuno â’r cynllun, mae Garry wedi gwneud gwaith amgylcheddol ar y fferm, gan gynnwys coedlannu gwrychoedd a chyflwyno cnydau gwraidd i’w gylchdro pori. Mae Garry yn plannu tua 400-600 o goed newydd bob blwyddyn. Mae’r holl goetiroedd wedi’u ffensio i gadw da byw allan, ac mae coed wedi’u plannu i gynorthwyo adfywio. Ynghyd â gweirgloddiau, mae gan y fferm laswelltir heb ei wella’n rhannol i ddarparu amrywiaeth o gynefinoedd gwahanol. Mae coridorau cynefin glan nentydd hefyd wedi’u ffensio.
Cliciwch yma i wylio fideo fer o Fferm Blaencennen, Gwynfe.