Amaethyddiaeth yn arwain y ffordd o ran cynaliadwyedd 

Mae Gill a Charles Morgan a’u mab Richard, sy’n deulu ffermio 9fed cenhedlaeth, yn rhedeg Fferm Gellifeddgaer ar gyrion Melin Ifan Ddu, Pen-y-bont ar Ogwr ym Morgannwg Ganol.

Gydag ardal fawr i’w rheoli a’i ffermio, am y tri degawd diwethaf, mae Gellifeddgaer wedi ymrwymo i warchod a gofalu am yr amgylchedd. Mae’r fferm wedi cymryd rhan mewn cynlluniau amgylcheddol ar hyd y blynyddoedd gan gynnwys y Cynllun Cynefin, Tir Gofal, Glastir Sylfaenol ac mae bellach yn rhan o
Glastir Uwch.

Ers ymuno â’r cynllun, mae’r teulu Morgan wedi ymgymryd ag ardaloedd o goetir llydanddail, ymyl dŵr ac ardaloedd eang o laswelltir cyfoethog. Mae waliau sychion wedi’u hailadeiladu a ffensys wedi’u codi i amgáu coetir. Mae ardaloedd o goedlannu o fewn y coetir i annog aildyfiant hefyd wedi'i wneud
ac mae’r fferm bellach yn gweld manteision y gwaith hwn.

 

PDF icon