Nid yw dyfodiad defaid godro fel un o fentrau ffermio mwyaf newydd a mwyaf addawol Cymru wedi digwydd drwy ddamwain.  

Gyda’r sector newydd hwn yn cael ei fwrw ymlaen gan ffermwyr arloesol o bob rhan o Gymru sy’n awyddus i ymateb i’r galw o’r farchnad ac ar sail canrifoedd o wybodaeth a thraddodiad o reoli defaid, bu Cyswllt Ffermio yno i helpu ffermydd teuluol i ddatblygu eu mentrau defaid llaeth.  

Nod yr erthygl hon yw dathlu llwyddiannau ffermwyr y bu Cyswllt Ffermio yn ddigon ffodus i weithio gyda nhw dros y pum mlynedd diwethaf.

Gyda 10 fferm yng Nghymru yn godro defaid eleni, mae’n ddealladwy bod y sector yn ennyn mwy o ddiddordeb gan ffermwyr sy’n ceisio diogelu eu busnesau teuluol i’r dyfodol, a’r rhai sydd wedi’u lleoli ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi sy’n awyddus i wneud y gorau o’r galw cynyddol am gynhyrchion llaeth dafad.

O ran maeth, mae llaeth mamogiaid yn cynnwys brasterau iachach, mwy o galsiwm, protein, egni, haearn, a fitaminau na llaeth buwch. A2 yw llaeth dafad yn bennaf, sy’n golygu ei fod yn cynnwys llawer llai o brotein beta-casin A1 y gwyddys ei fod yn achosi trafferthion treulio.  

Mae grŵp o fusnesau ffermydd a ddaeth at ei gilydd i ddechrau drwy gymorth hwyluso Agrisgôp Cyswllt Ffermio yn 2017, yn cydweithio â’r gwneuthurwr caws llwyddiannus artisan sy’n uchel ei pharch yn rhyngwladol, Dr Carrie Rimes o Fethesda, gogledd Cymru, i sicrhau cymorth a chyllid drwy EIP yng Nghymru yn 2019. 

Roedd y grŵp y tu ôl i’r prosiect EIP yng Nghymru eisiau cael gwell dealltwriaeth o effaith yr amrywiadau canlynol ar facterioleg a chyfansoddiad llaeth dafad:

  • Cyfnod llaetha.
  • Brid, gyda ffocws ar famogiaid Friesland pur, Lleyn pur a mamogiaid croes Friesland a Lleyn.
  • Ychwanegu seleniwm at ddiet mamogiaid.
Alan Jones, sy’n ffermio yn Chwiliog ger Pwllheli

 

Fe wnaeth y grŵp elwa o adolygiad helaeth o lenyddiaeth a wnaed gan ‘Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth’ Cyswllt Ffermio a ganiataodd iddynt siapio’r prosiect i wneud y defnydd gorau o’r cyllid. 

“Gydag arweiniad gan Dr Yoav Alony-Gilboa o gwmni Friars Moor Vets yn Dorset, yr arbenigwr a oedd yn rhan o’r prosiect, rydym wedi gweithredu protocolau newydd i dynnu ein sgôr SCC i lawr i wella perfformiad ein diadell,” eglurodd Alan. “Roedd hyn yn cynnwys cymryd camau eithafol fel tynnu mamogiaid a oedd â sgôr uchel o’r ddiadell odro, a gwneud addasiadau mwy gweithredol megis gwell dulliau ar gyfer sychu’r tethi a gwella’r wybodaeth am sut i fonitro a chynnal iechyd cadair/pwrs da. Rwyf mewn cysylltiad rheolaidd gyda’r rhan fwyaf o’r ffermwyr defaid llaeth yng Nghymru, ac rydyn ni’n cymharu ein hwsmonaeth â ffermydd buchod llaeth – rydyn ni’n llythrennol ar ddechrau’r siwrnai gyda defaid llaeth yng Nghymru, a bydd y posibilrwydd i wneud gwelliannau yn aruthrol.”    

Ychwanegwyd Dr Yoav Alony-Gilboa at restr gymeradwy Cyswllt Ffermio o ymgynghorwyr technegol yn 2021, ac fe wnaeth ffermwyr ddefnyddio’r arbenigedd hwn ar unwaith a chael gafael ar gyllid o 100% drwy gydweithredu fel grŵp i gael cymorth technegol. 

Tra bu’r prosiect yn rhedeg, mae Alan wedi treblu ei ddiadell i 135 o famogiaid, wedi symud i system odro unwaith y dydd ac wedi datblygu dull o wyna fesul ychydig, gyda grwpiau o famogiaid yn wyna o fis Chwefror tan fis Mai, er mwyn ymestyn y cyfnod pan fo llaeth ar gael.  

Mae’r grŵp newydd ddod i ben, a bydd yn cyhoeddi eu canfyddiadau’n fuan, gan gynnwys sut mae’r brid Lleyn yn cynnig posibiliadau ar gyfer system defaid llaeth a chig llai dwys i ffermwyr Cymru.

Daeth Alan Jones yn fentor i Cyswllt Ffermio yn 2019, gan agor y drws i nifer o ffermwyr elwa o’i wybodaeth a’i brofiad.

Er mwyn ffynnu mewn sector datblygol, bu’n rhaid i ffermwyr llaeth fel Bryn Perry a Rebecca Morris o Hwlffordd ddefnyddio’u dychymyg. Ar ôl ennill yr ‘Her Academi Amaeth’ yn 2021 fel un o ddau aelod y flwyddyn honno i fod yn gysylltiedig â godro defaid, dychwelodd Bryn adref i barhau â’r gwaith ar droi’r maidd llaeth dafad sydd ar ôl yn dilyn y broses gwneud caws yn fodca, y cyntaf o’i fath yng Nghymru. 

Lansiwyd ‘Ewe Whey Vodka’ yn 2022 ac fe’i gwneir drwy ddistyllu’r maidd i wneud fodca gydag ansawdd hufennog y gallwch ei yfed ar ei ben ei hun.  

Bryn Perry

 

“Fel un o gyflenwyr llaeth mamogiaid i fusnes gwneud caws ‘Cosyn Cymru' Dr Carrie Rimes ym Methesda,” eglura’r aelod arweiniol a’r ffermwr Alan Jones o Chwilog ger Pwllheli, “teimlwn fod yna fylchau mawr yn fy nealltwriaeth ac yn y wybodaeth sydd ar gael i mi neu unrhyw ffermwr arall yn fy sefyllfa i, ar beth sy’n effeithio ar ansawdd llaeth dafad ar gyfer gwneud caws. Mae llawer o’r ymchwil ar gynhyrchu llaeth defaid godro wedi cael ei gyfyngu i ardaloedd Ewropeaidd yn hytrach na’r Deyrnas Unedig.”

“Rhaid ichi edrych ar ffyrdd i ychwanegu gwerth os ydych chi’n mynd i odro defaid,” eglurodd Bryn.  “Rydyn ni wedi gwneud cynnydd da ar ein cynhyrchiant caws a’n hufen iâ sy’n rhoi inni’r sylfeini i ddatblygu ein diadell, ac mae’r fodca newydd rydyn ni wedi’i ddatblygu yn rhoi elfen arall inni i’r dyfodol.”

“Roeddwn i’n ddiolchgar iawn am y profiadau a gefais gan Academi Amaeth Cyswllt Ffermio a’r cymorth pellach i sefydlu fel tenant cenhedlaeth gyntaf a newydd-ddyfodiad ar un o Ffermydd Cyngor Sir Benfro,” meddai Bryn. “A bu’r grŵp Agrisgôp yn werthfawr yn rhoi hwb i’n dysgu a’n rhwydweithio.”

Dewisodd Huw Jones o Lannerchymedd fynd â’i fenter newydd i lawr trywydd mwy dwys, gan ddechrau â diadell o 200 o famogiaid a buan y sylweddolodd fod angen iddo fentro y tu hwnt i giât y fferm i ddysgu oddi wrth eraill. Yn 2019, llwyddodd i sicrhau Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio a roddodd gyfle iddo deithio i dde-ddwyrain Ffrainc i weld â’i lygaid ei hun nifer o ddiadellau defaid llaeth oedd wedi hen sefydlu. Yn ddiweddarach aeth i gwrdd â ffermwyr defaid llaeth yng ngogledd Lloegr er mwyn ceisio dysgu mwy am fanteision ac anfanteision gwahanol fridiau ar gyfer godro.

“Gorffennais y teithiau astudio wedi fy argyhoeddi y gellir dadlau bod hinsawdd Cymru yn well ar gyfer godro defaid na’r llefydd a welais yn Ffrainc,” eglurodd Huw, sydd bellach yn ei bedwaredd flwyddyn yn godro. “Fe wnaeth hefyd atgyfnerthu realiti caled y sector ar y foment yng Nghymru fod yn rhaid ichi ganfod neu ddatblygu eich llwybr eich hun i’r farchnad.”

“Er syndod, fe sylweddolais fod diadell o 50 o ddefaid yn rhoi bywoliaeth dda i un ffermwr yn Ffrainc, gyda gwerth yn cael ei ychwanegu drwy ei brosesu i wneud caws a iogwrt. Mae gwybodaeth defnyddwyr am gynhyrchion llaeth dafad yn y Deyrnas Unedig ymhell ar ôl Ffrainc, er bod arwyddion cryf bod hyn yn newid,” meddai Huw.

Fel Arweinydd Agrisgôp a Brocer Arloesi EIP, mae Geraint Hughes o Grŵp Ymgynghori Lafan wedi chwarae rôl fel hwylusydd i helpu ffermwyr i wneud y mwyaf o gymorth Cyswllt Ffermio. 

“Doedd gennyn ni bron ddim darpariaeth ar gyfer ffermio defaid llaeth yn ôl yn 2017 drwy Cyswllt Ffermio,” meddai Geraint. “Pan ddaeth yn amlwg bod yna fomentwm, roedd Cyswllt Ffermio yn gallu ymateb a chynnig amrywiaeth o gefnogaeth sydd wedi helpu’r sector mewn amrywiol ffyrdd o greu gofod i ffermwyr gyfarfod i gyfnewid profiadau a safbwyntiau, darparu cymorth gan gyfoedion i waith technegol iawn i ymchwilio i’r hyn sy’n effeithio ar ansawdd llaeth ar ffermydd.”

“Yr hyn a fu’n braf iawn ei weld yw sut mae ffermwyr wedi edrych a deall Cyswllt Ffermio a gweld ffyrdd o fowldio’r amrywiol ddarpariaethau i fodloni eu gofynion ar y pryd,” rhannodd Geraint. 

Hyd yn oed yn ystod y cyfnodau clo, cynhaliwyd digwyddiadau rhithiol rheolaidd, gydag un weminar defaid llaeth Cyswllt Ffermio yn denu dros 80 o wylwyr byw yn ystod gaeaf 2021. Gan wneud y mwyaf o dechnoleg rithiol, mae ffermwyr o Seland Newydd, yr Unol Daleithiau ac Iwerddon oll wedi rhannu â ffermwyr Cymru eu profiadau o odro defaid. 

Ym mis Awst 2021, ymddangosodd Hanna a George Finlay o Ballyhubbock Farm yng ngorllewin Wicklow, Iwerddon mewn fideo 20 munud “Rhithdaith Ryngwladol” a gomisiynwyd gan Cyswllt Ffermio, pan roesant gipolwg ar eu busnes ffermio yn godro defaid ac ar brosesu ar y fferm i wneud cawsiau a hufen iâ. Ewch i sianel YouTube Cyswllt Ffermio i wylio eu stori ysbrydoledig. 

Gyda 2022 yn addo torri recordiau unwaith eto ar gyfer y sector defaid llaeth datblygol yng Nghymru, mae gan un unigolyn a fu’n ffodus o weithio yng nghysgodion y ffermwyr arloesol freuddwyd, sy’n cynnwys defaid, ond heb orfod eu cyfrif. 

“Mae gennym gawsiau llaeth mamogiaid gan ‘Cosyn Cymru’ ym Methesda sydd wedi ennill gwobrau, a chynnyrch newydd sbon a gafodd ei lansio gan y ffermwyr Scott ac Isabel Coates dan y brand ‘Monmouth Shepherd’,” meddai Geraint Hughes. “Fe allwn ni hefyd ychwanegu ysgytlaeth, iogwrt a fodca maidd mamogiaid i’r rhestr honno o gynhyrchion Cymreig – rwy’n edrych ymlaen rhyw ddydd i allu dathlu gyda phawb sy’n rhan o sector defaid llaeth Cymru a mwynhau gwledd wedi’i pharatoi gyda’r holl gynhyrchion gwych hyn.”   

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.