Mae profion gwlân eisioes wedi bod yn cael eu defnyddio gan gynhyrchwyr gwlân brid arbenigol a phrin i wella ansawdd y gwlân, ond beth all profi gwlân ei gynnig i ffermwyr defaid yng Nghymru? Mae Gillian Williams sy’n Ffermio gyda’i gŵr, John, yn Nhywyn, Gogledd Cymru wedi bod yn manteisio ar y profion gwlân a gynigir gan y prosiect gwnaed â gwlân i arbrofi â chroesfridio er mwyn ychwanegu gwerth at y gwlân y maent yn ei gynhyrchu.

Mae profi gwlân yn rhoi gwell dealltwriaeth i ffermwyr a chynhyrchwyr gwlân o ansawdd eu gwlân a gall helpu i wneud penderfyniadau bridio. Wrth brofi gwlân, mae manwldeb y ffibr gwlân yn cael ei fesur mewn uned o'r enw micron. Mae'r micron yn pennu sut y bydd y ffibr yn cael ei ddefnyddio ac yn effeithio ar deimlad ac ymddangosiad cyffredinol y cynnyrch terfynol; bydd ffibr sydd â micron îs yn dal gwerth uwch. Os yw'r micron yn llai na 30 mae potensial i'r gwlân gael ei ddefnyddio mewn tecstilau gwisgadwy tra byddai unrhyw beth dros 30 yn gyffredinol yn cael ei ystyried yn rhy arw i fod wrth ymyl y croen a byddai'n gwerthu am bris îs.

Welsh mountain sheep

Profodd Gillian gnu cyntaf 10 o ddefaid mynydd Cymreig a chnu cyntaf 10 o ddefaid cymreig wedi eu croesi â Romney er mwyn cael dealltwriaeth o unrhyw newid i safon a gwerth y gwlân. Canlyniad micron y defaid mynydd Cymreig ar gyfartaledd oedd 33.4, tra oedd y defaid mynydd Cymreig oedd wedi eu croesi gyda Romney yn cynnwys micron ar gyfartaledd o 28.7. Golygai hyn fod gwahaniaeth o 4.7 micron. Dylid nodi bod y micron yn aml yn îs yn cnu cyntaf y ddafad ac felly mae rhif y meicron yn debygol o gynyddu, fodd bynnag, mae'r profion yn dangos canlyniadau addawol iawn.

Yn ôl British Wool, gwerth cyfartalog gwlân Romney yn 2021 oedd 40c/kg tra oedd gwlân defaid mynydd Cymru yn 17c/kg. Yn seiliedig ar ddata micron o’r profion gwlân yn unig, cynghorodd British Wool y gellid graddio gwlân Croes Romni Mynydd Cymreig Gillian fel 647, 649 neu 760 sy’n golygu y byddai’n werth rhwng 26c/kg a 42c/kg, yn dibynnol ar faint o gadwrm sydd ynddo. Trwy groesfridio ei defaid mynydd Cymreig gyda Romney mae Gillian yn credu ei bod wedi cynhyrchu oen cystal ond gyda mwy o wlân a chnu mwy mân. Mae ei chroes Mynydd Cymreig / Romney i gyd yn pori ar y mynydd ac maent yr un mor galed â Mynydd Cymreig pur.

Y cam cyntaf wrth gynyddu gwerth gwlân yw gofalu amdano a'i gadw'n lân. Mae Gillian, sy'n rhedeg ei busnes crefft ei hun 'The Welsh Woolshed' yn ogystal â Ffermio yn angerddol am y gwaith y gall ffermwyr ei wneud i wella ansawdd eu gwlân.

'Cadw'r gwlân yn lân yw'r peth pwysicaf, skirtiwch y gwlân a pheidiwch â defnyddio pitch a marciwr ar hyd y cnu. Gall llogi cneifiwr proffesiynol helpu hefyd. Gyda rhai bridiau, os ydych chi'n gofalu am y gwlân ac yn ei gadw'n lân bydd crefftwyr yn hapus i’w brynnu.' Meddai Gillian

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn profi gwlân, mae Gwnaed â Gwlân mewn partneriaeth gyda’r Wool Testing Authority Europe sydd wedi’i leoli yma yng Nghymru i gynnig profion gwlân am ddim i ffermwyr yng Nghymru. Gallwch archebu pecyn am ddim o'n gwefan.