Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£7995.00

Cyflwyniad 

Dros y 250 mlynedd diwethaf, mae Powys wedi bod yn gartref i gyfres drawiadol o ddyfeiswyr, gweithredwyr cymdeithasol a phobl fusnes sydd wedi newid wyneb Cymru ac wedi cael dylanwad o amgylch y Byd. 

Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Laura Ashley a’r teulu – arloeswraig gyda thecstilau, dodrefn cartref a ffasiwn a chyflogwr gwledig arwyddocaol.
  • Robert Owen – entrepreneur a diwygiwr cymdeithasol dyngarol, diwygiwr addysgol ac athrylith greadigol o arwyddocâd rhyngwladol. 
  • David Davies – arloeswr glo a’r rheilffyrdd, a’i deulu dyngarol – Yr Arglwydd Davies; Gwendoline a Margaret Davies. 
  • Pryce Jones – arloeswr rhyngwladol o ran cwmni archebion post a siopa o gartref; gyda’r honiad ei fod yn gychwynnwr Gwasanaeth Postio Parseli’r Post Brenhinol ac yn ddyfeisiwr y sach gysgu fodern. 

Roedd Astudiaeth Ddichonolrwydd wedi ystyried sut y gellid defnyddio gwaddol ac etifeddiaeth Arloeswyr Powys er budd pobl leol, gyda’r ffocws canolog ar weithgareddau a 
chyflwyno digidol. 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Ann Evans
Rhif Ffôn:
01597 827072
Email project contact