Golyga arloesi 'syniad newydd; meddwl yn greadigol; dychymyg newydd'. Gall hefyd gael ei ystyried fel ffordd o gyflwyno gwell atebion sy'n diwallu gofynion newydd, anghenion nad ydynt wedi'u disgrifio neu anghenion presennol cymunedau.

Nid yw gofynion gwledig yn wahanol. Gall Arloesi Gwledig gynnwys, ymysg pethau eraill, ffyniant a llesiant; busnesau a chymunedau cynaliadwy a chydnerth; ychwanegu gwerth at fusnesau a chymunedau; gwella'r amgylchedd; a heriau sydd ynghlwm wrth y newid yn yr hinsawdd.

Mae'r tudalennau Pentrefi Clyfar a Phartneriaeth Arloesi Ewrop yn cynnwys astudiaethau achos ar gyfer prosiectau sy'n dangos syniadau arloesol.