Mae bwyd yn chwarae rôl allweddol wrth adrodd hanes Cymru a bydd bob amser yn gweithio ochr yn ochr â hyn fel adnodd i hyrwyddo Naws am Le. Mae bwyd wedi dod yn rhan hanfodol o dwristiaeth.

Ynghyd â chefn gwlad syfrdanol Cymru, ei mynyddoedd garw a’i 870 o filltiroedd o arfordir, mae Cymru hefyd yn adnabyddus am ei chynhwysion lleol o ansawdd uchel, ei bwyd a diod arbennig a’i lleoedd diddorol i fwyta ynddynt.

Cyllid ar gyfer y Sector Bwyd yng Nghymru:

  • Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig (Bwyd) - mae’n cefnogi prosesyddion a gweithgynhyrchwyr bwyd a diod bach.
  • Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd – mae’n cynnig cymorth i fuddsoddiadau cyfalaf ym maes cyfarpar prosesu bwyd.

Cyllid ar gyfer y Sector Twristiaeth yng Nghymru:

  • Y Gronfa Busnesau Micro a Bychan (MSBF) – ar gyfer busnesau rhwng rhai micro a bach gyda llai na 50 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn (FTE). Gellir ei defnyddio naill ai i ddiweddaru cynnyrch presennol neu greu cynnyrch newydd o ansawdd uchel.
  • Cronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF) – gweithiwyd gyda phartneriaid ar lefel cyrchfan i gyflawni’r targed twf o 10% a nodwyd yn amcanion strategol strategaeth twristiaeth Llywodraeth Cymru.
  • Y Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF) - gweithiwyd gyda phartneriaid yn y sector twristiaeth ledled Cymru i gyflawni’r targed twf o 10% a nodwyd yn y strategaeth twristiaeth drwy annog cydweithio agosach rhwng partneriaethau masnach.
  • Cymorth Buddsoddi Mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS) – cronfa fuddsoddi sydd ar gael ar gyfer y sector cyhoeddus a’r trydydd sector a sefydliadau dielw. Mae’r cymorth hwn  ar gyfer prosiectau amwynderau.