Mae’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS) yn cael ei gyflwyno gan Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014–2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun hwn yn cefnogi gweithredu uniongyrchol i reoli adnoddau naturiol ledled Cymru gan gyflawni yn erbyn y dull gweithredu a’r egwyddorion sydd yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae’r SMS yn gofyn am gydweithio yn hytrach nag ymgeiswyr unigol i ddatblygu cynigion ar gyfer prosiectau i’w cyflwyno dros gyfnod o ddwy i dair blynedd ar y mwyaf. Diben y SMS yw cefnogi prosiectau cydweithredol ar raddfa tirwedd sy’n darparu atebion ar sail natur i wella cadernid ein hadnoddau naturiol a’n hecosystemau mewn ffordd sy’n sicrhau manteision i fusnesau fferm ac iechyd a llesiant cymunedau gwledig hefyd. Mae prosiectau SMS yn cymryd camau i wella bioamrywiaeth; gwella seilwaith gwyrdd; cynnal rheolaeth well o dir a dŵr ac, yn bwysig, hwyluso addasu i’r newid yn yr hinsawdd a lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar raddfa tirwedd.

Mae prosiectau cydweithredol SMS yn cynnwys perchenogion tir, ffermwyr a phorwyr sydd wedi gweld y manteision sy’n gallu deillio o gydweithio a chael eu hysbrydoli i weithio gyda dulliau newydd a thraddodiadol.

Mae prosiectau’n cynnwys partneriaethau a chydweithio ar lefel leol ac ar raddfa tirwedd sy’n cynnig atebion ar sail natur i fynd i’r afael â’r dirywiad mewn bioamrywiaeth ac i wella cadernid ein
hecosystemau.

Mae galluogi cydweithredu ar y raddfa gywir (boed hynny ar raddfa safle, tirwedd dalgylch, ecosystem neu’n rhanbarthol) a’r lleoliadau cywir yn hanfodol i fynd i’r afael â phroblemau a sicrhau’r manteision
mwyaf posibl.

Nod yr SMS yw bodloni Maes Ffocws 4 y Rhaglen Datblygu Gwledig: Adfer, cadw a gwella ecosystemau sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth drwy:

  • Adfer a chadw bioamrywiaeth, gan gynnwys ardaloedd Natura 2000 a ffermio â gwerth natur uchel, a chyflwr tirweddau Ewropeaidd,
  • Gwella’r rheolaeth ar bridd
  • Gwella’r rheolaeth ar ddŵr
  • Dal a storio carbon mewn amaethyddiaeth a choedwigaeth.

 

 

PDF icon

 

PDF icon