870 o filltiroedd - Llwybr Arfordir Cymru

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn 870 o filltiroedd o arfordir trawiadol.

Amcan y prosiect yw ail-lansio'r Llwybr yn y wlad hon a thramor trwy ymgyrch farchnata fawr. Bydd yr ymgyrch yn gobeithio gwneud y llwybr yn nodwedd eiconig yn y farchnad, sy'n cynrychioli popeth sy'n dda am Gymru ac yn rheswm pwysig dros ymweld â ni: "dych chi ddim wedi bod yng Nghymru os nad ych chi wedi cerdded rhan o Lwybr Arfordir Cymru"; "it's 870 miles of smiles".

Amcan y prosiect yw gwneud y gorau o botensial rhinweddau arbennig y Llwybr fel un o lwybrau arfordirol di-dor cynta'r byd o gwmpas gwlad a'i sefydlu fel un o'r llwybrau hamdden gorau yn y byd trwy gynyddu gwaith marchnata a hyrwyddo ym mhob rhan o'r Llwybr yn ystod Blwyddyn y Môr.  Bydd yr ymgyrch yn mynd yn ei blaen yn y Flwyddyn Darganfod a thu hwnt i gynyddu nifer yr ymwelwyr a busnesau sy'n gwybod am y Llwybr, cynyddu nifer y bobl sy'n cerdded yr arfordir a chynyddu'r manteision economaidd i Gymru trwy'r Llwybr. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£150,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF)
Ardal:
Sir Benfro
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Nichola Couceiro
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts