Adfer Dalgylch Taf Bargoed

Nod y prosiect hwn, dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, yw cyflwyno dulliau cynaliadwy o reoli dalgylch afon Taf Bargoed ym Merthyr Tudful. Bydd grŵp hirsefydlog o bartneriaid yn cydweithredu i roi’r prosiect ar waith gyda’r gymuned leol.   

Rhan ganolog o’r prosiect fydd y gwaith o adfer y llyn llawn silt ym Mharc Taf Bargoed. Yn benodol, bydd y prosiect yn cyflwyno dulliau cynaliadwy o reoli’r ucheldir a fydd yn: adfer safle poblogaidd i’r cymunedau lleol ei ddefnyddio a’i fwynhau; lleihau’r silt yn y dŵr; hybu bioamrywiaeth a chryfhau amgylchedd ecolegol; gwella ansawdd dŵr a lleihau’r perygl llifogydd yn y cymunedau lleol. Ffermydd lleol, busnesau hamdden a chymunedau Bedlinog, Trelewis a Threharris fydd yn elwa fwyaf o’r prosiect.

Bydd y prosiect yn mynd rhagddo law  yn llaw â gwaith sydd ar y gweill eisoes yn yr ardal. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal asesiad o’r dalgylch gan chwilio am gyfleoedd i wella’r dirwedd a dulliau o wneud hynny. Mae Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru hefyd wedi cymeradwyo arian LEADER y Cynllun Datblygu Gwledig yn ddiweddar ar gyfer prosiect ymgysylltu â chymunedau yn y dalgylch, a chynnig cyfleoedd addysg a sgiliau i bobl leol. At ei gilydd, bydd y gweithgareddau hyn i gyd yn creu sylfaen gref i reoli adnoddau naturiol yn Nhaf Bargoed yn gynaliadwy.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£417,000
Ffynhonnell cyllid:
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
Ardal:
Merthyr Tudful
Cwblhau:
The Taf Bargoed Catchment Project

Cyswllt:

Enw:
Alyn Owen
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts