Adfer Eglwys Bethel

Bydd y prosiect yn adfer eglwys adfeiliedig i fod yn gyfleuster cymunedol y mae mawr ei angen yn y dref. Mae Capel Bedyddwyr Bethel yn 190 oed, wedi ei adeiladu ym 1829 ac yn adeilad sydd heb ei restru. Fel llawer o adeiladau yn y dref, gadawyd iddo ddadfeilio oherwydd diffyg buddsoddiad ariannol a diddordeb cymunedol yn y dref.

Bydd y prosiect yn rhoi to newydd arno ac yn creu rhagor o le yn yr ystafelloedd i lawr y grisiau i ddarparu ar gyfer defnydd cymunedol. 

Yn ei hanfod, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddwy thema allweddol: 

  1. Ymgysylltu a Llesiant y Gymuned - Cynnig gofod unigryw, cyfeillgar a diogel i grwpiau lleol ei ddefnyddio i ehangu a chynnal cynhwysiant cymdeithasol.
  2. Gwella'r dreftadaeth adeiledig leol – helpu i adfywio diwylliant a threftadaeth y dref.


 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£127,862
Ffynhonnell cyllid:
Y gronfa datblygu cymunedau gwledig
Ardal:
Torfaen
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Janet Jones

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts