Agor Drysau’r Gegin

Mae hwn yn brosiect prawf dwy flynedd o hyd, yn ystod mis Hydref (2019 a 2020) lle bydd cynhyrchwyr bwyd lleol a mannau lletygarwch a thwristiaeth yn agor drysau eu ceginau i’r cyhoedd gan arddangos ein cynnyrch arbennig yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Diben y prosiect prawf ydy hyrwyddo cynnyrch lleol, lleihau cadwyni cyflenwi byr a chreu mwy o gyfleoedd cysylltu / rhwydweithio uniongyrchol.

Dyma amcanion y prosiect prawf:
•    Rhoi dulliau newydd o gydweithio ar brawf rhwng cynhyrchwyr bwyd, y diwydiant lletygarwch a phrynwyr drwy leihau’r gadwyn cyflenwi. Caiff hyn ei gyflawni drwy gyfres o brofiadau yn ymwneud â bwyd. Ein gobaith ydy annog trigolion yr ardal ac ymwelwyr i Fwynhau, Profi a Bwyta’r gorau sydd gan Ogledd Ddwyrain Cymru i’w gynnig. 
•    Bwrw golwg ar ffyrdd newydd o hyrwyddo bwyd lleol drwy ganiatáu i gwsmeriaid ymweld ag adeilad cynhyrchwyr gan gymryd rhan mewn gweithgareddau, sgyrsiau neu weithdai. 
•    Cynnig modd i gynhyrchwyr / gweithwyr y diwydiant lletygarwch ehangu drwy weithdai penodol. 
•    Adnabod ymarferion gorau er mwyn datblygu model ar gyfer y prosiect hwn sy’n gynaliadwy yn y tymor canolig i’r hirdymor. 
•    Cynnig glaslun ar gyfer ardaloedd LEADER eraill er mwyn dyblygu’r model. 

 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£30,888
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Prosiectau Cydweithredu Cymru
Cwblhau:
Thema:
2
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Donna Hughes
Rhif Ffôn:
01490 340500
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://cadwynclwyd.co.uk/
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts