Ailddatblygu Parc Bailey Hill

Nod y prosiect yw gwella llwybrau cerdded a rhodfeydd yn y parc er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch, yn ddiogel ac yn ddeniadol ac er mwyn dehongli nodweddion hanesyddol ym mhob rhan o'r safle, yn enwedig yn y Mwnt a'r Orsedd. Bydd uwchraddio'r llwybrau yn gwella mynediad i ymwelwyr weld yr holl henebion ym mhob rhan o'r safle a bydd y seddau newydd yn annog ymwelwyr i dreulio mwy o amser ar y safle. Defnyddir cymysgedd o ddeunydd dehongli traddodiadol a deunydd dehongli sy'n defnyddio cyfryngau digidol newydd i adrodd hanes y safle gan ddefnyddio straeon a phrofiadau pobl. Defnyddir arwyddion croesawu a chyfeiriadu newydd yn y brif fynedfa er mwyn tywys yr arweinwyr tuag at safleoedd a nodweddion allweddol o amgylch y parc. Caiff nifer o baneli dehongli eu lleoli ym Mhorthdy'r Ceidwad a gaiff ei ailddatblygu. Bydd yr holl arwyddion dehongli newydd yn ddwyieithog. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£123,740
Ffynhonnell cyllid:
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
Ardal:
Sir y Fflint
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Sophie Fish
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts