Mae'r prosiect yn cynnwys ailddatblygu cyfleusterau y fuches odro'n sylweddol i wneud lle i fuches sy'n ehangu. Nod y cynnig buddsoddi hwn yw gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd eisoes ar gael ar y fferm, sef llafur, da byw, adeiladau presennol, pridd, glaswelltir a ffynonellau ynni adnewyddadwy.
Mae'r rhan fwyaf o'r seilwaith allweddol cyfredol yn 35 i 40 oed ac yn cyfyngu ar berfformiad yr anifeiliaid a'r busnes. Mae angen ad-drefnu a moderneiddio'r cyfleusterau sy'n hanfodol i'r busnes llaeth yn sylweddol er mwyn cynyddu cynhyrchiant.
Dyma'r buddsoddiadau arfaethedig:-
Blwyddyn 1- Gosod parlwr godro troi 30 pwynt a thanc cynaeafu dŵr glaw.
Blwyddyn 2- Adeiladu claddfa silwair a phrynu aradr awyru glaswelltir.
Blwyddyn 3- Gosod traciau mynediad pori a phaneli ffotofoltäig solar 10kW.
Amcangyfrif o gostau:-
- Parlwr godro = £150,000
- Adeiladu'r parlwr, gwaith daear, trydan a phlymio = £78,000
- Claddfa silwair = £40,000
- Traciau mynediad pori = £20,000
- System PV solar 10kW = £11,000
- System gynaeafu dŵr glaw = £6,000
- Aradr awyru glaswelltir = £3,000
- Ffioedd cynllunio a phroffesiynol = £6,000
Er bod y sector llaeth yn mynd trwy'r cyfnod anoddaf o bosibl mewn cof, rydym yn teimlo fel partneriaeth ein bod wedi cyrraedd y pwynt lle mae'n rhaid i ni fuddsoddi i sicrhau bod modd cynhyrchu llaeth o gwbl yn Bayliau yn y tymor hir. Mae economeg gyfredol cynhyrchu llaeth yn dangos na allai'r prosiect hwn fynd yn ei flaen nawr heb gymorth.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£129,556
- Ffynhonnell cyllid:
-
Grant Cynhyrchu Cynaliadwy
- Ardal:
-
Ceredigion
- Cwblhau:
-
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts