Amserlenni Twristiaeth Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Bydd y prosiect prawf hwn yn datblygu 12 pecyn gydag amserlenni ar gyfer grwpiau o dwristiaid a byddan nhw’n ymwneud ag ystod o wahanol ddiddordebau a fydd yn gweddu i bawb. Bydd yn profi’r galw am gynnyrch twristiaeth o’r fath ac yn dod â busnesau ynghyd i gydweithio fel partneriaid er elw i’r naill a’r llall.

Nod y prosiect ydy cyhoeddi cynnig twristiaeth ar y cyd yn y sir gan ofalu fod ymwelwyr a staff y busnesau lletygarwch yn dod yn fwy ymwybodol o’r hyn sydd ar gael yn yr ardal drwy ddatblygu 12 prif amserlen ar gyfer grwpiau o ymwelwyr. Bydd y prosiect yn hybu sgiliau myfyrwyr coleg a phrifysgol, gan ddefnyddio eu modiwlau i helpu datblygu’r amserlenni hyn, yn enwedig y rheiny sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc / fforwyr annibynnol. Bydd hyn yn creu rhwydwaith dosbarthu cynaliadwy ymysg partneriaid twristiaeth er mwyn gofalu ymwybyddiaeth eang o’r amserlenni i ymwelwyr fedru bwrw golwg ar atyniadau treftadaeth, natur a bwyd a diod yn y wardiau cefn gwlad.  

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£8,212
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Wrecsam
Cwblhau:
Thema:
2
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Donna Hughes
Rhif Ffôn:
01490 340500
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts